Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 16:38-50 beibl.net 2015 (BNET)

38. Roedd y dynion yma wedi pechu, ac fe gostiodd eu bywydau iddyn nhw. Mae'r padellau tân oedd ganddyn nhw yn gysegredig am eu bod wedi eu cyflwyno i'r ARGLWYDD. Felly rhaid eu morthwylio i wneud gorchudd metel i'r allor. Byddan nhw'n arwydd i rybuddio pobl Israel i beidio gwrthryfela.”

39. Felly dyma Eleasar yr offeiriad yn casglu'r padellau oedd wedi eu defnyddio gan y rhai gafodd eu lladd yn y tân, a dyma nhw'n cael eu curo gyda morthwylion i wneud gorchudd i'r allor.

40. Roedd y gorchudd yn arwydd i rybuddio pobl Israel na ddylai neb oedd ddim yn perthyn i deulu Aaron losgi arogldarth i'r ARGLWYDD. Neu byddai'r un peth yn digwydd iddyn nhw ac a ddigwyddodd i Cora a'i ddilynwyr. Felly cafodd beth ddwedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ei wneud.

41. Ond y diwrnod wedyn dyma bobl Israel yn dechrau cwyno a troi yn erbyn Moses ac Aaron, “Chi sydd wedi lladd pobl yr ARGLWYDD!”

42. Wrth iddyn nhw gasglu at ei gilydd yn erbyn Moses ac Aaron, dyma nhw'n troi i gyfeiriad Pabell Presenoldeb Duw, ac roedd y cwmwl wedi dod drosti ac ysblander yr ARGLWYDD yn disgleirio.

43. A dyma Moses ac Aaron yn sefyll o flaen Pabell Presenoldeb Duw.

44. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

45. “Symudwch i ffwrdd oddi wrth y bobl yma, i mi eu dinistrio nhw yn y fan a'r lle!” Ond dyma Moses ac Aaron yn mynd ar eu hwynebau ar lawr.

46. A dyma Moses yn dweud wrth Aaron, “Cymer badell dân a rhoi arogldarth ynddi, a tân o'r allor arni. Dos â hi i ganol y bobl, i wneud pethau'n iawn rhyngddyn nhw â Duw. Mae'r ARGLWYDD wedi gwylltio gyda nhw, ac mae'r pla wedi dechrau!”

47. Felly dyma Aaron yn gwneud beth ddwedodd Moses, a rhedeg i ganol y bobl. Roedd y pla wedi dechrau eu taro nhw, ond dyma Aaron yn llosgi arogldarth i wneud pethau'n iawn rhwng y bobl â Duw.

48. Dyma fe'n sefyll rhwng y bobl oedd wedi marw a'r rhai oedd yn dal yn fyw, a dyma'r pla yn stopio.

49. Roedd 14,700 o bobl wedi marw, heb gyfri'r rhai oedd wedi marw yn yr helynt gyda Cora.

50. Yna, am fod y pla wedi stopio, dyma Aaron yn mynd yn ôl at Moses at y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 16