Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 16:22-38 beibl.net 2015 (BNET)

22. Ond dyma Moses ac Aaron yn plygu a'i hwynebau ar lawr, “O Dduw, y Duw sy'n rhoi bywyd i bopeth byw, wyt ti'n mynd i ddigio gyda pawb pan mae un dyn yn pechu?”

23. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses,

24. “Dywed wrth y bobl am symud i ffwrdd oddi wrth bebyll Cora, Dathan ac Abiram.”

25. Yna dyma Moses yn codi ar ei draed a mynd at Dathan ac Abiram. A dyma arweinwyr Israel yn mynd gydag e.

26. A dyma Moses yn dweud wrth y bobl, “Symudwch i ffwrdd oddi wrth bebyll y dynion drwg yma. Peidiwch cyffwrdd dim byd sydd piau nhw, rhag i chi gael eich ysgubo i ffwrdd gyda nhw am eu bod wedi pechu.”

27. Felly dyma pawb yn symud i ffwrdd oddi wrth bebyll Cora, Dathan ac Abiram. Erbyn hyn roedd Dathan ac Abiram wedi dod allan, ac yn sefyll wrth fynedfa eu pebyll gyda'i gwragedd a'i plant a'i babis bach.

28. A dyma Moses yn dweud, “Byddwch yn gwybod, nawr, mai'r ARGLWYDD sydd wedi fy anfon i wneud y pethau yma i gyd, ac mai nid fi gafodd y syniad.

29. Os fydd y dynion yma'n marw'n naturiol fel pawb arall, dydy'r ARGLWYDD ddim wedi fy anfon i.

30. Ond os fydd yr ARGLWYDD yn gwneud rhywbeth annisgwyl, a'r ddaear yn eu llyncu nhw a'i heiddo i gyd – os byddan nhw'n syrthio'n fyw i'w bedd – byddwch yn gwybod wedyn fod y dynion yma wedi sarhau yr ARGLWYDD!”

31. Ar ôl i Moses ddweud hyn, dyma'r ddaear yn hollti oddi tanyn nhw.

32. A dyma nhw a'i teuluoedd, a phobl Cora, a'i heiddo i gyd yn cael eu llyncu gan y tir.

33. Dyma nhw, a popeth oedd ganddyn nhw, yn syrthio'n fyw i'r bedd. Wedyn dyma'r ddaear yn cau drostyn nhw, ac roedden nhw wedi diflannu.

34. Wrth eu clywed nhw'n sgrechian, dyma bobl Israel, oedd o'u cwmpas, yn rhedeg am eu bywydau am eu bod ofn i'r ddaear eu llyncu nhw hefyd.

35. A dyma dân yn dod oddi wrth yr ARGLWYDD a lladd y dau gant pum deg oedd yn llosgi arogldarth.

36. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

37. “Dywed wrth Eleasar fab Aaron, yr offeiriad, i gasglu'r padellau o'r tân, am eu bod nhw'n gysegredig. Yna dywed wrtho am daflu'r tân oedd ynddyn nhw yn bell i ffwrdd.

38. Roedd y dynion yma wedi pechu, ac fe gostiodd eu bywydau iddyn nhw. Mae'r padellau tân oedd ganddyn nhw yn gysegredig am eu bod wedi eu cyflwyno i'r ARGLWYDD. Felly rhaid eu morthwylio i wneud gorchudd metel i'r allor. Byddan nhw'n arwydd i rybuddio pobl Israel i beidio gwrthryfela.”

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 16