Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 16:1-14 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma Cora fab Its'har (oedd yn ŵyr i Cohath fab Lefi), gyda Dathan ac Abiram (meibion Eliab) ac On fab Peleth, o lwyth Reuben, yn codi i fyny a

2. gwrthryfela yn erbyn Moses, gyda dau gant a hanner o arweinwyr eraill – dynion enwog.

3. A dyma nhw'n mynd gyda'i gilydd i wynebu Moses ac Aaron, a dweud wrthyn nhw, “Dych chi wedi mynd yn rhy bell. Mae'r bobl i gyd wedi eu cysegru – pob un ohonyn nhw! Ac mae'r ARGLWYDD gyda nhw. Pam ydych chi'n gwneud eich hunain yn bwysicach na gweddill pobl yr ARGLWYDD?”

4. Pan glywodd Moses hyn dyma fe'n mynd ar ei wyneb ar lawr.

5. Ac wedyn dyma fe'n dweud wrth Cora a'i ddilynwyr, “Yn y bore bydd yr ARGLWYDD yn dangos pwy ydy'r person mae e wedi ei ddewis a'i gysegru. Bydd yn gadael i'r person hwnnw fynd yn agos ato, i sefyll yn ei bresenoldeb.

6. Felly, Cora a'r criw sydd gyda ti, dyma beth sydd raid i chi ei wneud: Cymryd padellau tân,

7. eu tanio, a llosgi arogldarth arnyn nhw o flaen yr ARGLWYDD. Cawn weld wedyn pwy mae'r ARGLWYDD wedi ei ddewis a'i gysegru! Chi Lefiaid ydy'r rhai sydd wedi mynd yn rhy bell!”

8. A dyma Moses yn dweud wrth Cora, “Chi Lefiaid, gwrandwch arna i!

9. Ydy e ddim digon i chi fod Duw Israel wedi'ch dewis chi o blith holl bobl Israel i fod yn agos ato wrth i chi weithio yn y Tabernacl, ac i sefyll o flaen y bobl a'i gwasanaethu nhw?

10. Mae e wedi rhoi'r gwaith sbesial yma i chi ac i'ch brodyr, y Lefiaid eraill. A nawr, dyma chi, eisiau bod yn offeiriaid hefyd!

11. Yr ARGLWYDD ydy'r un dych chi wedi codi yn ei erbyn go iawn! Pwy ydy Aaron i chi gwyno amdano?”

12. Yna dyma Moses yn galw am Dathan ac Abiram, meibion Eliab. Ond dyma nhw'n dweud, “Na, dŷn ni ddim am ddod.

13. Nid peth bach ydy'r ffaith dy fod ti wedi dod â ni o wlad ffrwythlon, gwlad lle mae llaeth a mêl yn llifo, allan i'r anialwch yma i farw! A dyma ti nawr yn actio'r tywysog ac yn meddwl mai ti ydy'r bòs!

14. Y gwir ydy, dwyt ti ddim wedi'n harwain ni i wlad lle mae llaeth a mêl yn llifo, na wedi rhoi tir a gwinllannoedd i ni. Wyt ti'n meddwl fod y dynion yma'n ddall neu rywbeth? Felly, dŷn ni ddim am ddod atat ti.”

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 16