Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 14:36-37-45 beibl.net 2015 (BNET)

36-37. Yna dyma'r dynion roddodd adroddiad gwael ar ôl bod yn archwilio'r wlad, a gwneud i'r bobl gwyno a troi yn erbyn Moses, yn cael eu taro gan bla ac yn marw o flaen yr ARGLWYDD.

38. Ond cafodd Josua fab Nwn a Caleb fab Jeffwnne, oedd gyda nhw, fyw.

39. Pan ddwedodd Moses wrth bobl Israel am hyn i gyd, buodd y bobl yn galaru am y peth.

40. Yna'n gynnar iawn y bore wedyn dyma nhw'n mynd i fyny i ben bryn. “Dyma ni,” medden nhw, “gadewch i ni fynd i'r lle ddwedodd yr ARGLWYDD. Dŷn ni'n gwybod ein bod ni wedi pechu.”

41. Ond dyma Moses yn dweud wrthyn nhw, “Pam dych chi'n tynnu'n groes i beth mae'r ARGLWYDD wedi ei ddweud eto? Wnewch chi ddim llwyddo!

42. Peidiwch mynd yn eich blaenau. Dydy'r ARGLWYDD ddim gyda chi. Bydd eich gelynion yn eich curo chi.

43. Byddwch chi'n dod wyneb yn wyneb â'r Amaleciaid a'r Canaaneaid, ac yn cael eich lladd. Dych chi wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD, felly fydd yr ARGLWYDD ddim gyda chi.”

44. Er hynny dyma nhw'n mynnu mentro yn eu blaenau i fyny i'r bryniau. Ond wnaeth Arch ymrwymiad yr ARGLWYDD na Moses ddim gadael y gwersyll.

45. A dyma'r Amaleciaid a'r Canaaneaid oedd yn byw yno yn ymosod arnyn nhw, a mynd ar eu holau yr holl ffordd i Horma.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 14