Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 14:3-13 beibl.net 2015 (BNET)

3. “Pam mae'r ARGLWYDD wedi dod â ni i'r wlad yma i gael ein lladd yn y frwydr? Bydd ein gwragedd a'n plant yn cael eu cymryd yn gaethion! Fyddai ddim yn well i ni fynd yn ôl i'r Aifft?”

4. A dyma nhw'n dweud wrth ei gilydd, “Gadewch i ni ddewis rhywun i'n harwain ni, a mynd yn ôl i'r Aifft.”

5. Dyma Moses ac Aaron yn plygu gyda'i hwynebau ar lawr. Gwnaethon nhw hyn o flaen pobl Israel i gyd oedd wedi dod at ei gilydd.

6. Yna dyma ddau o'r arweinwyr oedd wedi bod yn archwilio'r wlad – sef Josua fab Nwn a Caleb fab Jeffwnne – yn rhwygo eu dillad.

7. A dyma nhw'n dweud wrth bobl Israel, “Mae'r wlad buon ni'n edrych arni yn wlad fendigedig!

8. Os ydy'r ARGLWYDD yn hapus gyda ni, bydd yn mynd â ni yno ac yn rhoi'r wlad i ni. Mae'n dir ffrwythlon – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo.

9. Felly, peidiwch gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD! A peidiwch bod ag ofn y bobl sy'n byw yn y wlad. Ni fydd yn eu bwyta nhw! Does ganddyn nhw ddim gobaith! Mae'r ARGLWYDD gyda ni! Felly peidiwch bod a'i hofn nhw.”

10. Erbyn hyn roedd y bobl yn bygwth lladd Josua a Caleb trwy daflu cerrig atyn nhw. Ond yna dyma ysblander yr ARGLWYDD yn dod i'r golwg uwch ben Pabell Presenoldeb Duw. (Gwelodd pobl Israel i gyd hyn.)

11. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Am faint mae'r bobl yma'n mynd i'm dirmygu i? Ydyn nhw byth yn mynd i gredu yno i, ar ôl yr holl arwyddion gwyrthiol maen nhw wedi eu gweld?

12. Dw i wedi cael digon! Dw i'n mynd i anfon haint i'w dinistrio nhw! A bydda i'n gwneud dy ddisgynyddion di yn bobl fwy a chryfach na fuon nhw erioed.”

13. A dyma Moses yn dweud wrth yr ARGLWYDD, “Ond wedyn bydd pobl yr Aifft yn clywed am y peth! Ti ddefnyddiodd dy nerth i ddod â'r bobl allan oddi wrthyn nhw.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 14