29. Byddwch chi'n syrthio'n farw yma yn yr anialwch. Am eich bod chi wedi troi yn fy erbyn i, fydd dim un ohonoch chi gafodd ei gyfrif (o ddau ddeg oed i fyny)
30. yn cael mynd i'r wlad wnes i addo ei rhoi i chi setlo ynddi. Yr unig ddau eithriad fydd Caleb fab Jeffwnne a Josua fab Nwn.
31. Ond bydd eich plant (y rhai oeddech chi'n dweud fyddai'n cael eu cymryd yn gaethion) yn cael mwynhau y wlad oeddech chi mor ddibris ohoni.
32. Byddwch chi'n syrthio'n farw yn yr anialwch yma.
33. A bydd eich plant yn gorfod crwydro yn yr anialwch am bedwar deg o flynyddoedd. Byddan nhw'n talu am eich bod chi wedi bod yn anffyddlon! Dyna fydd y sefyllfa nes bydd corff yr olaf o'ch cenhedlaeth chi yn gorwedd yn yr anialwch.
34. Byddwch chi'n dioddef am y drwg am bedwar deg mlynedd, sef un flwyddyn am bob diwrnod buoch chi'n archwilio'r wlad. Byddwch chi'n deall beth mae'n ei olygu i'm cael i yn elyn i chi!’
35. Dw i, yr ARGLWYDD wedi dweud. Dw i'n mynd i wneud hyn i bob un o'r criw sydd wedi dod at ei gilydd yn fy erbyn i. Yr anialwch yma fydd eu diwedd nhw! Dyma ble fyddan nhw'n marw!”
36-37. Yna dyma'r dynion roddodd adroddiad gwael ar ôl bod yn archwilio'r wlad, a gwneud i'r bobl gwyno a troi yn erbyn Moses, yn cael eu taro gan bla ac yn marw o flaen yr ARGLWYDD.
38. Ond cafodd Josua fab Nwn a Caleb fab Jeffwnne, oedd gyda nhw, fyw.
39. Pan ddwedodd Moses wrth bobl Israel am hyn i gyd, buodd y bobl yn galaru am y peth.
40. Yna'n gynnar iawn y bore wedyn dyma nhw'n mynd i fyny i ben bryn. “Dyma ni,” medden nhw, “gadewch i ni fynd i'r lle ddwedodd yr ARGLWYDD. Dŷn ni'n gwybod ein bod ni wedi pechu.”
41. Ond dyma Moses yn dweud wrthyn nhw, “Pam dych chi'n tynnu'n groes i beth mae'r ARGLWYDD wedi ei ddweud eto? Wnewch chi ddim llwyddo!
42. Peidiwch mynd yn eich blaenau. Dydy'r ARGLWYDD ddim gyda chi. Bydd eich gelynion yn eich curo chi.