Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 14:16-33 beibl.net 2015 (BNET)

16. ‘Doedd yr ARGLWYDD ddim yn gallu arwain y bobl i'r wlad oedd e wedi ei haddo iddyn nhw, felly dyma fe'n eu lladd nhw yn yr anialwch!’

17. Felly, fy Meistr, dangos mor gryf wyt ti. Rwyt ti wedi dweud,

18. ‘Mae'r ARGLWYDD mor amyneddgar ac mae ei haelioni yn anhygoel. Mae'n maddau beiau a gwrthryfel. Ond dydy e ddim yn gadael i'r euog fynd heb ei gosbi. Mae pechodau pobl yn gadael eu hôl ar y plant am dair neu bedair cenhedlaeth.’

19. Plîs wnei di faddau drygioni'r bobl yma? Mae dy gariad ffyddlon mor fawr, ac rwyt ti wedi bod yn maddau iddyn nhw ers iddyn nhw ddod o'r Aifft.”

20. A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Iawn, dw i wedi maddau iddyn nhw fel wyt ti eisiau.

21. Ond mor sicr â'r ffaith fy mod i'n fyw, a bod fy ysblander i'n llenwi'r byd i gyd:

22. Mae'r bobl yma wedi gweld fy ysblander i, a'r holl arwyddion gwyrthiol wnes i yn yr Aifft, ac eto maen nhw wedi fy rhoi i ar brawf dro ar ôl tro, ac wedi gwrthod gwrando arna i.

23. Felly gân nhw'n bendant ddim gweld y wlad wnes i addo ei rhoi i'w hynafiaid. Fydd neb o'r rhai sydd wedi bod mor ddirmygus ohono i yn mynd yno.

24. Ond mae fy ngwas Caleb yn wahanol. Mae e wedi bod yn ffyddlon, a bydd e'n cael mynd yn ôl i'r wlad aeth e i'w gweld, a bydd ei blant yn ei hetifeddu.

25. (Cofia fod yr Amaleciaid a'r Canaaneaid yn byw yn y dyffrynnoedd.) Felly, yfory, dw i am i ti droi yn ôl i gyfeiriad yr anialwch sydd ar y ffordd yn ôl i'r Môr Coch.”

26. Dyma'r ARGLWYDD yn siarad gyda Moses ac Aaron:

27. “Am faint mwy mae'n rhaid i mi ddiodde'r bobl yma sy'n cwyno ac yn ymosod arna i? Dw i wedi clywed popeth maen nhw'n ei ddweud.

28. Dywed wrthyn nhw fy mod i, yr ARGLWYDD, yn dweud, ‘Mor sicr â'r ffaith fy mod i'n fyw, bydda i'n gwneud i chi beth glywais i chi'n gofyn amdano!

29. Byddwch chi'n syrthio'n farw yma yn yr anialwch. Am eich bod chi wedi troi yn fy erbyn i, fydd dim un ohonoch chi gafodd ei gyfrif (o ddau ddeg oed i fyny)

30. yn cael mynd i'r wlad wnes i addo ei rhoi i chi setlo ynddi. Yr unig ddau eithriad fydd Caleb fab Jeffwnne a Josua fab Nwn.

31. Ond bydd eich plant (y rhai oeddech chi'n dweud fyddai'n cael eu cymryd yn gaethion) yn cael mwynhau y wlad oeddech chi mor ddibris ohoni.

32. Byddwch chi'n syrthio'n farw yn yr anialwch yma.

33. A bydd eich plant yn gorfod crwydro yn yr anialwch am bedwar deg o flynyddoedd. Byddan nhw'n talu am eich bod chi wedi bod yn anffyddlon! Dyna fydd y sefyllfa nes bydd corff yr olaf o'ch cenhedlaeth chi yn gorwedd yn yr anialwch.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 14