Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 14:1-9 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma bawb yn torri allan i grïo'n uchel. Roedden nhw'n crïo drwy'r nos.

2. Dyma bobl Israel yn dechrau cwyno a troi yn erbyn Moses ac Aaron. “Byddai'n well petaen ni wedi marw yn yr Aifft, neu hyd yn oed yn yr anialwch yma!” medden nhw.

3. “Pam mae'r ARGLWYDD wedi dod â ni i'r wlad yma i gael ein lladd yn y frwydr? Bydd ein gwragedd a'n plant yn cael eu cymryd yn gaethion! Fyddai ddim yn well i ni fynd yn ôl i'r Aifft?”

4. A dyma nhw'n dweud wrth ei gilydd, “Gadewch i ni ddewis rhywun i'n harwain ni, a mynd yn ôl i'r Aifft.”

5. Dyma Moses ac Aaron yn plygu gyda'i hwynebau ar lawr. Gwnaethon nhw hyn o flaen pobl Israel i gyd oedd wedi dod at ei gilydd.

6. Yna dyma ddau o'r arweinwyr oedd wedi bod yn archwilio'r wlad – sef Josua fab Nwn a Caleb fab Jeffwnne – yn rhwygo eu dillad.

7. A dyma nhw'n dweud wrth bobl Israel, “Mae'r wlad buon ni'n edrych arni yn wlad fendigedig!

8. Os ydy'r ARGLWYDD yn hapus gyda ni, bydd yn mynd â ni yno ac yn rhoi'r wlad i ni. Mae'n dir ffrwythlon – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo.

9. Felly, peidiwch gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD! A peidiwch bod ag ofn y bobl sy'n byw yn y wlad. Ni fydd yn eu bwyta nhw! Does ganddyn nhw ddim gobaith! Mae'r ARGLWYDD gyda ni! Felly peidiwch bod a'i hofn nhw.”

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 14