Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 12:7-16 beibl.net 2015 (BNET)

7. Ond mae fy ngwas Moses yn wahanol.Dw i'n gallu ei drystio fe'n llwyr.

8. Dw i'n siarad gydag e wyneb yn wyneb –yn gwbl agored. Does dim ystyr cudd.Mae e'n gweld yr ARGLWYDD mewn ffordd unigryw.Felly pam oeddech chi mor barod i'w feirniadu?”

9. Roedd yr ARGLWYDD wedi digio go iawn gyda nhw, a dyma fe'n mynd i fwrdd.

10. Ac wrth i'r cwmwl godi oddi ar y Tabernacl, roedd croen Miriam wedi troi'n wyn gan wahanglwyf. Pan welodd Aaron y gwahanglwyf arni

11. dyma fe'n galw ar Moses, “Meistr, plîs paid cymryd yn ein herbyn ni. Dŷn ni wedi bod yn ffyliaid, ac wedi pechu!

12. Paid gadael iddi fod fel plentyn wedi ei eni'n farw, a hanner ei gnawd wedi diflannu cyn iddo ddod o'r groth!”

13. A dyma Moses yn gweddïo ar yr ARGLWYDD, “O Dduw, plîs wnei di iacháu hi?”

14. A dyma'r ARGLWYDD yn ei ateb, “Petai ei thad wedi poeri yn ei hwyneb byddai'n cael ei diystyru am saith diwrnod. Cau hi allan o'r gwersyll am saith diwrnod, a bydd hi'n cael dod yn ôl wedyn.”

15. Felly dyma Miriam yn cael ei chau allan o'r gwersyll am saith diwrnod. A wnaeth y bobl ddim teithio yn eu blaenau nes roedd Miriam yn ôl gyda nhw.

16. Ar ôl hynny dyma'r bobl yn gadael Chatseroth, ac yn gwersylla yn anialwch Paran.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 12