1. Roedd Miriam ac Aaron wedi dechrau beirniadu Moses, am ei fod wedi priodi dynes o ddwyrain Affrica (ie, dynes ddu o Affrica).
2. “Ai dim ond trwy Moses mae'r ARGLWYDD yn siarad?” medden nhw. “Ydy e ddim wedi siarad trwon ni hefyd?” Ac roedd yr ARGLWYDD wedi ei clywed nhw.
3. (Roedd Moses ei hun yn ddyn gostyngedig iawn. Doedd neb llai balch drwy'r byd i gyd.)
4. Felly dyma'r ARGLWYDD yn galw ar Moses, Aaron a Miriam: “Dw i eisiau i'r tri ohonoch chi ddod at Babell Presenoldeb Duw.” Felly dyma'r tri ohonyn nhw'n mynd.
5. A dyma'r ARGLWYDD yn dod i lawr mewn colofn o niwl o flaen mynedfa'r Tabernacl. A dyma fe'n dweud wrth Aaron a Miriam i gamu ymlaen, a dyma nhw'n gwneud hynny.
6. Yna dyma fe'n dweud wrthyn nhw,“Gwrandwch yn ofalus ar beth dw i'n ddweud:Os oes proffwyd gyda chi, dw i'r ARGLWYDDyn siarad â'r person hwnnw drwy weledigaeth a breuddwyd.
7. Ond mae fy ngwas Moses yn wahanol.Dw i'n gallu ei drystio fe'n llwyr.
8. Dw i'n siarad gydag e wyneb yn wyneb –yn gwbl agored. Does dim ystyr cudd.Mae e'n gweld yr ARGLWYDD mewn ffordd unigryw.Felly pam oeddech chi mor barod i'w feirniadu?”