Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 11:7-16 beibl.net 2015 (BNET)

7. (Roedd y manna yn edrych fel had coriander, lliw resin golau, golau.

8. Byddai'r bobl yn mynd allan i'w gasglu, ac yna'n gwneud blawd ohono gyda melinau llaw, neu drwy ei guro mewn mortar. Yna ei ferwi mewn crochan, a gwneud bara tenau ohono. Roedd yn blasu'n debyg i olew olewydd.

9. Roedd y manna'n disgyn ar lawr y gwersyll dros nos gyda'r gwlith.)

10. Dyma Moses yn clywed y bobl i gyd yn crïo tu allan i'w pebyll. Roedd yr ARGLWYDD wedi digio go iawn gyda nhw, ac roedd Moses yn gweld fod pethau'n ddrwg.

11. A dyma Moses yn gofyn i'r ARGLWYDD, “Pam wyt ti'n trin fi mor wael? Beth dw i wedi ei wneud o'i le? Mae'r bobl yma'n ormod o faich!

12. Ydyn nhw'n blant i mi? Ai fi ddaeth â nhw i'r byd? Ac eto ti'n disgwyl i mi eu cario nhw, fel tad maeth yn cario ei blentyn! Ti'n disgwyl i mi fynd â nhw i'r wlad wnest ti addo ei rhoi i'w hynafiaid.

13. Ble dw i'n mynd i ddod o hyd i gig i'w roi i'r bobl yma i gyd? Maen nhw'n cwyno'n ddi-stop, ‘Rho gig i ni i'w fwyta! Dŷn ni eisiau cig!’

14. Mae'r cwbl yn ormod i mi! Alla i ddim gwneud hyn ar fy mhen fy hun.

15. Os mai fel yma wyt ti am fy nhrin i, byddai'n well gen i farw! Gwna ffafr â mi a lladd fi nawr! Alla i gymryd dim mwy!”

16. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Galw saith deg o arweinwyr Israel at ei gilydd – dynion cyfrifol wyt ti'n gwybod amdanyn nhw. Tyrd â nhw i sefyll gyda ti o flaen Pabell Presenoldeb Duw.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 11