Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 11:3-15 beibl.net 2015 (BNET)

3. A dyma fe'n galw'r lle hwnnw yn Tabera, sef “Lle'r Llosgi”, am fod tân yr ARGLWYDD wedi eu llosgi nhw yno.

4. Roedd yna griw cymysg o bobl yn eu plith nhw yn awchu am fwyd. Roedd pobl Israel yn crïo eto, ac yn cwyno, “Pam gawn ni ddim cig i'w fwyta?”

5. Pan oedden ni yn yr Aifft roedd gynnon ni ddigonedd o bysgod i'w bwyta, a pethau fel ciwcymbyrs, melons, cennin, nionod a garlleg.

6. Ond yma does dim byd yn apelio aton ni. Y cwbl sydd gynnon ni ydy'r manna yma!

7. (Roedd y manna yn edrych fel had coriander, lliw resin golau, golau.

8. Byddai'r bobl yn mynd allan i'w gasglu, ac yna'n gwneud blawd ohono gyda melinau llaw, neu drwy ei guro mewn mortar. Yna ei ferwi mewn crochan, a gwneud bara tenau ohono. Roedd yn blasu'n debyg i olew olewydd.

9. Roedd y manna'n disgyn ar lawr y gwersyll dros nos gyda'r gwlith.)

10. Dyma Moses yn clywed y bobl i gyd yn crïo tu allan i'w pebyll. Roedd yr ARGLWYDD wedi digio go iawn gyda nhw, ac roedd Moses yn gweld fod pethau'n ddrwg.

11. A dyma Moses yn gofyn i'r ARGLWYDD, “Pam wyt ti'n trin fi mor wael? Beth dw i wedi ei wneud o'i le? Mae'r bobl yma'n ormod o faich!

12. Ydyn nhw'n blant i mi? Ai fi ddaeth â nhw i'r byd? Ac eto ti'n disgwyl i mi eu cario nhw, fel tad maeth yn cario ei blentyn! Ti'n disgwyl i mi fynd â nhw i'r wlad wnest ti addo ei rhoi i'w hynafiaid.

13. Ble dw i'n mynd i ddod o hyd i gig i'w roi i'r bobl yma i gyd? Maen nhw'n cwyno'n ddi-stop, ‘Rho gig i ni i'w fwyta! Dŷn ni eisiau cig!’

14. Mae'r cwbl yn ormod i mi! Alla i ddim gwneud hyn ar fy mhen fy hun.

15. Os mai fel yma wyt ti am fy nhrin i, byddai'n well gen i farw! Gwna ffafr â mi a lladd fi nawr! Alla i gymryd dim mwy!”

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 11