Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 11:16-29 beibl.net 2015 (BNET)

16. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Galw saith deg o arweinwyr Israel at ei gilydd – dynion cyfrifol wyt ti'n gwybod amdanyn nhw. Tyrd â nhw i sefyll gyda ti o flaen Pabell Presenoldeb Duw.

17. Bydda i'n dod i lawr i siarad â ti yno. Bydda i'n cymryd peth o'r Ysbryd sydd arnat ti, ac yn ei roi arnyn nhw. Wedyn byddan nhw'n cymryd peth o'r baich oddi arnat ti – fydd dim rhaid i ti gario'r cwbl dy hun.

18. “A dywed wrth y bobl am fynd trwy'r ddefod o buro eu hunain erbyn yfory. Dywed wrthyn nhw, ‘Byddwch chi'n cael cig i'w fwyta. Mae'r ARGLWYDD wedi'ch clywed chi'n crïo ac yn cwyno, ac yn dweud, “Pwy sy'n mynd i roi cig i ni i'w fwyta? Roedd bywyd yn well yn yr Aifft!” Wel, mae'r ARGLWYDD yn mynd i roi cig i chi i'w fwyta.

19. Dim jest am ddiwrnod neu ddau, na hyd yn oed pump, deg neu ddau ddeg!

20. Byddwch chi'n ei fwyta am fis cyfan. Yn y diwedd bydd e'n dod allan o'ch ffroenau chi! Byddwch chi mor sâl, byddwch chi'n chwydu cig! Am eich bod chi wedi dangos diffyg parch at yr ARGLWYDD sydd gyda chi, a cwyno o'i flaen, “Pam wnaethon ni adael yr Aifft?”’”

21. “Mae yna chwe chan mil o filwyr traed o'm cwmpas i,” meddai Moses, “a ti'n dweud dy fod yn mynd i roi digon o gig iddyn nhw ei fwyta am fis cyfan!

22. Hyd yn oed petaen ni'n lladd yr anifeiliaid sydd gynnon ni i gyd, fyddai hynny ddim digon! Neu'n dal yr holl bysgod sydd yn y môr! Fyddai hynny'n ddigon?”

23. A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Wyt ti'n meddwl fy mod i'n rhy wan? Cei weld ddigon buan a ydw i'n dweud y gwir!”

24. Felly dyma Moses yn mynd allan, a dweud wrth y bobl beth ddwedodd yr ARGLWYDD. A dyma fe'n casglu saith deg o'r arweinwyr a'i gosod i sefyll o gwmpas y Tabernacl.

25. A dyma'r ARGLWYDD yn dod i lawr yn y cwmwl, ac yn siarad â nhw. A dyma fe'n cymryd peth o'r Ysbryd oedd ar Moses, a'i roi ar y saith deg arweinydd. Pan ddaeth yr Ysbryd arnyn nhw dyma nhw'n proffwydo. Ond dyna oedd yr unig adeg wnaethon nhw hynny.

26. Roedd yna ddau ddyn, Eldad a Medad, oedd wedi aros yn y gwersyll. (Roedd y ddau ohonyn nhw ar restr yr arweinwyr, ond ddim wedi mynd at y Tabernacl.) A dyma'r Ysbryd yn dod arnyn nhw hefyd, a dyma nhw'n dechrau proffwydo lle roedden nhw, yn y gwersyll.

27. Dyma ddyn ifanc yn rhedeg at Moses a dweud wrtho, “Mae Eldad a Medad yn proffwydo yn y gwersyll!”

28. Felly dyma Josua fab Nwn, un o'r dynion ifanc roedd Moses wedi eu dewis i'w wasanaethu, yn dweud, “Moses, meistr! Gwna iddyn nhw stopio!”

29. Ond dyma Moses yn ei ateb, “Wyt ti'n eiddigeddus drosto i? O na fyddai pobl Dduw i gyd yn broffwydi! Byddwn i wrth fy modd petai'r ARGLWYDD yn rhoi ei Ysbryd arnyn nhw i gyd!”

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 11