Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 1:18-51 beibl.net 2015 (BNET)

18. yn casglu'r bobl i gyd at ei gilydd y diwrnod hwnnw, sef diwrnod cyntaf yr ail fis. A cafodd pawb eu cofrestru, gan nodi'r llwyth a'r teulu roedden nhw'n perthyn iddo. Cafodd pob un o'r dynion oedd dros ugain oed eu rhestru,

19. yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. Digwyddodd y cyfrifiad yma yn anialwch Sinai.

20-43. A dyma'r canlyniadau, sef nifer y dynion dros ugain oed allai ymuno â'r fyddin, gan ddechrau gyda Reuben (mab hynaf Israel):Llwyth Nifer Reuben 46,500 Simeon 59,300 Gad 45,650 Jwda 74,600 Issachar 54,400 Sabulon 57,400 Yna meibion Joseff:Effraim 40,500 Manasse 32,200 Wedyn,Benjamin 35,400 Dan 62,700 Asher 41,500 Nafftali 53,400

44. Dyma niferoedd y dynion gafodd eu cyfri gan Moses, Aaron, a'r deuddeg arweinydd (pob un yn cynrychioli llwyth ei hynafiad).

45. Cawson nhw eu cyfrif yn ôl eu teuluoedd – pob un dyn oedd dros ugain oed ac yn gallu ymuno â'r fyddin.

46. A'r cyfanswm oedd 603,550.

47. Ond doedd y cyfanswm yna ddim yn cynnwys y dynion o lwyth Lefi.

48. Roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses,

49. “Paid cynnwys llwyth Lefi yn y cyfrifiad.

50. Mae'r Lefiaid i fod i ofalu am Dabernacl y Dystiolaeth, a'r holl ddodrefn a'r offer sydd ynddo. Nhw sydd i'w gario, gofalu amdano, a gwersylla o'i gwmpas.

51. Pan mae'r Tabernacl yn cael ei symud, y Lefiaid sydd i'w dynnu i lawr a'i godi eto. Os ydy rhywun arall yn mynd yn agos ato, y gosb fydd marwolaeth.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 1