Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 9:5-16 beibl.net 2015 (BNET)

5. Wedyn dyma grŵp arall o Lefiaid – Ieshŵa, Cadmiel, Bani, Chashafneia, Sherefeia, Hodeia, Shefaneia, a Pethacheia – yn cyhoeddi, “Safwch ar eich traed a bendithio yr ARGLWYDD eich Duw!”“Bendith arnat ti, O ARGLWYDD ein Duw, o hyn ymlaen ac i dragwyddoldeb! Boed i dy enw gwych di gael ei fendithio, er nad ydy geiriau'n ddigon i fynegi'r fendith a'r mawl!

6. Ti ydy'r ARGLWYDD, a dim ond ti.Ti wnaeth greu yr awyr,y gofod a'r holl sêr,y ddaear a phopeth sydd arni,a'r moroedd a phopeth sydd ynddynt.Ti sydd yn cynnal y cwbl,ac mae tyrfa'r nefoedd yn plygu o dy flaen di.

7. Ti ydy'r ARGLWYDD Dduw wnaeth ddewis Abram,a'i arwain allan o Ur yn Babilonia,a rhoi'r enw Abraham iddo.

8. Pan welaist ei fod yn ffyddlondyma ti'n ymrwymo gydag ei roi gwlad Canaan i'w ddisgynyddion –tir yr Hethiaid a'r Amoriaid,y Peresiaid, y Jebwsiaid a'r Girgasiaid.A dyma ti'n cadw dy air,am dy fod ti'n gwneud beth sy'n iawn.

9. Gwelaist ein hynafiaid yn dioddef yn yr Aifft,a clywaist nhw'n gweiddi am help wrth y Môr Coch.

10. Yna gwnest wyrthiau rhyfeddol i daro'r Pharoa'i swyddogion, a pobl y wlad, am fod mor greulon.Ti'n enwog am y pethau yma hyd heddiw.

11. Dyma ti'n hollti'r môr o'u blaenau nhw,iddyn nhw gerdded drwy'r môr ar dir sych!Yna dyma ti'n taflu'r rhai oedd yn ceisio'u dal i'r dŵr dwfn,a dyma nhw'n suddo fel carreg dan y tonnau mawr.

12. Ti wnaeth arwain dy bobl gyda cholofn o niwl yn y dydd,a cholofn o dân i oleuo'r ffordd yn y nos.

13. Dyma ti'n dod i lawr ar Fynydd Sinai,a siarad gyda nhw o'r nefoedd.Rhoddaist ganllawiau teg, dysgeidiaeth wir,rheolau a gorchmynion da.

14. Eu dysgu nhw fod y Saboth yn gysegredig,a cael Moses i ddysgudy orchmynion, dy reolau a'th ddysgeidiaeth iddyn nhw.

15. Rhoist fara o'r nefoedd iddyn nhw,pan oedden nhw eisiau bwyd;a dod â dŵr o'r graigpan oedden nhw'n sychedig.Yna dwedaist wrthyn nhw am fynd i gymryd y tirroeddet ti wedi addo ei roi iddyn nhw.

16. Ond roedd ein hynafiaid yn falch ac ystyfnig,a wnaethon nhw ddim gwrando ar dy orchmynion di.

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 9