Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 9:28-37 beibl.net 2015 (BNET)

28. Ond yna, pan oedden nhw'n gyfforddus eto,dyma nhw'n mynd yn ôl i'w ffyrdd drwg.Felly dyma ti'n gadael i'w gelyniongael y llaw uchaf arnyn nhw.Wedyn bydden nhw'n gweiddi am dy help di eto,a byddet tithau'n gwrando o'r nefoeddac yn eu hachub nhw dro ar ôl troam dy fod mor drugarog.

29. Yna roeddet ti'n eu siarsio nhwi droi yn ôl at dy Gyfraith di,ond roedden nhw'n falch ac yn gwrthod gwrando ar dy orchmynion.Dyma nhw'n gwrthod dy ganllawiau –y rhai sy'n rhoi bywyd i'r sawl sy'n ufudd iddyn nhw.Aethon nhw'n fwy a mwy ystyfnig;a gwrthryfela yn lle bod yn ufudd.

30. Buost mor amyneddgar hefo nhw,am flynyddoedd lawer.Buodd dy Ysbryd yn eu siarsiodrwy'r proffwydi.Ond doedden nhw ddim am wrando,felly dyma ti'n gadael i bobloedd gwledydd eraill eu gorchfygu.

31. Ac eto, am dy fod ti mor drugarog,wnest ti ddim cael gwared â nhw yn llwyr;wnest ti ddim troi dy gefn arnyn nhw.Rwyt ti mor garedig a thrugarog!

32. Felly, o ein Duw – y Duw mawr, pwerus, rhyfeddol,sy'n cadw dy ymrwymiad ac sydd mor hael –dŷn ni wedi dioddef caledi ers dyddiau brenhinoedd Asyria(ni y bobl, ein brenhinoedd, arweinwyr, offeiriaid, proffwydi, a'n hynafiaid);paid meddwl mai peth bach ydy hyn.

33. Roeddet ti'n iawn yn gadael i'r cwbl ddigwydd i ni.Rwyt ti wedi bod yn ffyddlon;ni sydd wedi bod ar fai.

34. Wnaeth ein brenhinoedd a'n harweinwyr,ein hoffeiriaid a'n hynafiaid,ddim cadw dy gyfraith, dy ganllawiau a'th orchmynion.

35. Wnaethon nhw ddim dy wasanaethu dina troi cefn ar eu ffyrdd drwg,hyd yn oed pan oedd popeth ganddyn nhw:teyrnas, dy ddaioni rhyfeddol tuag atyn nhw,a'r tir da a ffrwythlon wnest ti ei roi iddyn nhw.

36. A dyma ni, heddiw, yn gaethweisionyn y tir ffrwythlon wnest ti ei roi i'n hynafiaid!Ydyn, dŷn ni'n gaethweision yma!

37. Mae'r holl gnydau sy'n tyfu ymayn mynd i'r brenhinoedd rwyt ti wedi eu rhoi i'n rheoli,o achos ein pechodau.Maen nhw'n ein rheoli ni a'n hanifeiliaid,ac yn gwneud fel y mynnon nhw!Mae hi'n galed arnon ni!

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 9