Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 8:8-18 beibl.net 2015 (BNET)

8. Roedden nhw'n darllen o sgrôl y Gyfraith bob yn adran, ac yna yn ei esbonio, fel bod y bobl yn deall beth oedd yn cael ei ddarllen.

9. Roedd y bobl wedi dechrau crïo wrth wrando ar y Gyfraith yn cael ei darllen iddyn nhw. A dyma Nehemeia y llywodraethwr, Esra yr offeiriad a'r ysgrifennydd, a'r Lefiaid oedd yn rhoi'r esboniad, yn dweud, “Mae heddiw'n ddiwrnod wedi ei gysegru i'r ARGLWYDD eich Duw. Peidiwch galaru a crïo.

10. Ewch i ddathlu a mwynhau pryd o fwyd a diod felys, a cofiwch rannu gyda'r rhai sydd heb ddim. Mae heddiw'n ddiwrnod wedi ei gysegru i'r Meistr. Peidiwch bod yn drist – bod yn llawen yn yr ARGLWYDD sy'n rhoi nerth i chi!”

11. Yna dyma'r Lefiaid yn tawelu'r bobl, a dweud, “Ust! Stopiwch grïo. Mae heddiw'n ddiwrnod cysegredig.”

12. Felly dyma'r bobl i gyd yn mynd i ffwrdd i fwyta ac yfed a rhannu beth oedd ganddyn nhw'n llawen – achos roedden nhw wedi deall beth oedd wedi cael ei ddysgu iddyn nhw.

13. Yna'r diwrnod wedyn dyma benaethiaid y claniau, yr offeiriaid a'r Lefiaid yn cyfarfod gydag Esra yr ysgrifennydd i astudio eto beth roedd y Gyfraith yn ei ddweud.

14. A dyma nhw'n darganfod fod yr ARGLWYDD wedi rhoi gorchymyn drwy Moses fod pobl Israel i fyw mewn llochesau dros dro yn ystod yr Ŵyl yn y seithfed mis.

15. Roedden nhw i fod i gyhoeddi'r neges yma drwy'r trefi i gyd, ac yn Jerwsalem: “Ewch i'r bryniau i gasglu canghennau deiliog pob math o goed – olewydd, myrtwydd, palmwydd ac yn y blaen – i godi'r llochesau gyda nhw. Dyna sydd wedi ei ysgrifennu yn y Gyfraith.”

16. Felly dyma'r bobl yn mynd allan a dod â'r canghennau yn ôl gyda nhw i godi llochesau iddyn nhw eu hunain – ar ben to eu tai, neu yn yr iard, yn iard y deml ac yn sgwâr Giât y Dŵr a Giât Effraim.

17. Aeth pawb oedd wedi dod yn ôl o'r gaethglud ati i godi llochesau dros dro i fyw ynddyn nhw dros yr Ŵyl. Doedd pobl Israel ddim wedi gwneud fel yma ers dyddiau Josua fab Nwn. Roedd pawb yn dathlu'n llawen.

18. Dyma Esra yn darllen o Lyfr Cyfraith Duw bob dydd, o ddechrau'r Ŵyl i'w diwedd. Dyma nhw'n cadw'r Ŵyl am saith diwrnod, ac yna yn ôl y drefn dod at ei gilydd i addoli eto.

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 8