Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 6:7-19 beibl.net 2015 (BNET)

7. Mae'n nhw'n dweud dy fod wedi penodi proffwydi yn Jerwsalem i gyhoeddi, ‘Mae brenin yn Jwda!’Bydd brenin Persia yn dod i glywed am y sibrydion yma. Felly tyrd! Gad i ni drafod y mater.”

8. Dyma fi'n anfon neges yn ôl ato yn dweud, “Dydy'r pethau rwyt ti'n ddweud amdanon ni ddim yn wir. Ffrwyth dy ddychymyg di ydy'r cwbl!”

9. (Ceisio'n dychryn ni roedden nhw, gan feddwl y bydden ni'n llaesu dwylo ac y byddai'r gwaith ddim yn cael ei orffen. Ond roedd hyn wedi fy ngwneud i'n fwy penderfynol fyth.)

10. Yna es i weld Shemaia fab Delaia ac ŵyr Mehetafél, oedd ddim yn gallu gadael ei dŷ. A dyma fe'n dweud,“Gad i ni gyfarfod yn y cysegr –cysegr Duw yn y Deml,a cloi ein hunain i mewn.Maen nhw'n dod i dy ladd di –dod i dy ladd di'n y nos.”

11. Ond dyma fi'n ateb, “Ydy'n iawn i ddyn fel fi redeg i ffwrdd? A sut all dyn cyffredin fel fi fynd i mewn i'r cysegr a cael byw? Na, wna i ddim mynd.”

12. Roedd hi'n amlwg fod Duw ddim yn siarad trwyddo – Tobeia a Sanbalat oedd wedi ei dalu i roi'r broffwydoliaeth yna.

13. Roedd wedi cael ei dalu i'm dychryn i, er mwyn i mi bechu drwy wneud beth roedd e'n ei awgrymu. Byddai hynny wedyn wedi arwain at sgandal a rhoi enw drwg i mi.

14. O Dduw, cofia beth mae Tobeia a Sanbalat wedi ei wneud – a hefyd Noadeia y broffwydes, a'r proffwydi eraill sy'n trïo fy nychryn i.

15. Cafodd y wal ei gorffen ar y pumed ar hugain o fis Elwl – dim ond pum deg dau diwrnod gymrodd y gwaith!

16. Roedd ein gelynion, a'r gwledydd o'n cwmpas, wedi dychryn a digalonni pan glywon nhw fod y gwaith wedi ei orffen. Allen nhw ddim gwadu fod Duw wedi ein helpu ni i wneud hyn.

17. Drwy'r cyfnod yma roedd pobl bwysig Jwda a Tobeia wedi bod yn ysgrifennu'n ôl ac ymlaen at ei gilydd.

18. Roedd yna lawer o bobl yn Jwda wedi addo cefnogi Tobeia am ddau reswm: roedd yn fab-yng-nghyfraith i Shechaneia fab Arach, ac roedd ei fab Iehochanan wedi priodi merch Meshwlam fab Berecheia.

19. Roedden nhw'n dweud wrtho i am yr holl bethau da roedd e'n eu gwneud, ac yna'n dweud wrtho fe beth ddwedais i. Wedyn roedd Tobeia'n anfon llythyrau bygythiol ata i.

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 6