Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 6:6-11 beibl.net 2015 (BNET)

6. Dyma oedd y llythyr yn ei ddweud:“Mae yna si yn mynd o gwmpas (ac mae Geshem wedi cadarnhau hyn), dy fod ti a'r Iddewon yn bwriadu gwrthryfela, ac mai dyna pam dych chi'n adeiladu'r waliau. A'r sôn ydy dy fod ti am fod yn frenin arnyn nhw.

7. Mae'n nhw'n dweud dy fod wedi penodi proffwydi yn Jerwsalem i gyhoeddi, ‘Mae brenin yn Jwda!’Bydd brenin Persia yn dod i glywed am y sibrydion yma. Felly tyrd! Gad i ni drafod y mater.”

8. Dyma fi'n anfon neges yn ôl ato yn dweud, “Dydy'r pethau rwyt ti'n ddweud amdanon ni ddim yn wir. Ffrwyth dy ddychymyg di ydy'r cwbl!”

9. (Ceisio'n dychryn ni roedden nhw, gan feddwl y bydden ni'n llaesu dwylo ac y byddai'r gwaith ddim yn cael ei orffen. Ond roedd hyn wedi fy ngwneud i'n fwy penderfynol fyth.)

10. Yna es i weld Shemaia fab Delaia ac ŵyr Mehetafél, oedd ddim yn gallu gadael ei dŷ. A dyma fe'n dweud,“Gad i ni gyfarfod yn y cysegr –cysegr Duw yn y Deml,a cloi ein hunain i mewn.Maen nhw'n dod i dy ladd di –dod i dy ladd di'n y nos.”

11. Ond dyma fi'n ateb, “Ydy'n iawn i ddyn fel fi redeg i ffwrdd? A sut all dyn cyffredin fel fi fynd i mewn i'r cysegr a cael byw? Na, wna i ddim mynd.”

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 6