Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 4:9-17 beibl.net 2015 (BNET)

9. Felly dyma ni'n gweddïo ar ein Duw, a gosod gwylwyr i edrych allan amdanyn nhw ddydd a nos.

10. Ond yna dyma bobl Jwda yn dechrau dweud,“Mae'r gweithwyr yn blino a stryffaglu,ac mae cymaint o rwbel.Does dim gobaith i ni adeiladua gorffen y gwaith ar y wal!”

11. Roedd ein gelynion yn brolio, “Cyn iddyn nhw sylweddoli beth sy'n digwydd, byddwn ni yn eu canol yn eu lladd nhw, a bydd y gwaith yn dod i ben!”

12. Roedd yr Iddewon oedd yn byw wrth eu hymyl nhw wedi'n rhybuddio ni lawer gwaith, “Dylech chi ddod yn ôl aton ni, maen nhw'n cynllwyn i ymosod.”

13. Felly dyma fi'n gosod pobl i amddiffyn y rhannau isaf, tu ôl i'r wal yn y mannau mwyaf agored. Gosodais nhw bob yn glan, gyda cleddyfau, gwaywffyn a bwâu.

14. Yna ar ôl edrych dros y cwbl, dyma fi'n codi i annerch yr arweinwyr, y swyddogion, a gweddill y bobl, a dweud, “Peidiwch bod a'u hofn nhw. Cofiwch mor fawr a rhyfeddol ydy'r Meistr! Byddwch barod i ymladd dros eich pobl, eich meibion, eich merched, eich gwragedd a'ch cartrefi!”

15. Pan glywodd ein gelynion ein bod ni'n gwybod am eu cynllwyn, dyma Duw yn eu rhwystro nhw. Felly dyma pawb yn mynd yn ôl i weithio ar y wal.

16. O'r diwrnod hwnnw ymlaen roedd hanner y dynion ifanc oedd gen i yn adeiladu a'r hanner arall yn amddiffyn. Roedd ganddyn nhw arfwisg, ac roedden nhw'n cario gwaywffyn, tariannau a bwâu. Roedd y swyddogion yn sefyll tu ôl i bobl Jwda

17. oedd yn adeiladu'r wal. Roedd y rhai oedd yn cario beichiau yn gwneud hynny gydag un llaw, ac yn dal arf yn y llaw arall.

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 4