Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 4:1-6 beibl.net 2015 (BNET)

1. Pan glywodd Sanbalat ein bod ni'n ailadeiladu'r waliau dyma fe'n gwylltio'n lân a dechrau galw'r Iddewon yn bob enw dan haul.

2. Dyma fe'n dechrau dweud o flaen ei ffrindiau a milwyr Samaria, “Beth mae'r Iddewon pathetig yma'n meddwl maen nhw'n wneud? Ydyn nhw'n meddwl y gallan nhw wneud y gwaith eu hunain? Fyddan nhw'n offrymu aberthau eto? Ydych chi'n meddwl y gwnân nhw orffen y gwaith heddiw? Ydyn nhw'n meddwl y gallan nhw ddod â'r cerrig yma sydd wedi llosgi yn ôl yn fyw?”

3. A dyma Tobeia o Ammon, oedd yn sefyll gydag e, yn dweud, “Byddai'r wal maen nhw'n ei chodi yn chwalu petai llwynog yn dringo arni!”

4. “O ein Duw, gwrando arnyn nhw'n ein bychanu ni! Tro eu dirmyg arnyn nhw eu hunain! Gwna iddyn nhw gael eu cipio i ffwrdd fel caethion i wlad estron!

5. Paid maddau iddyn nhw na cuddio eu pechodau o dy olwg! Maen nhw wedi cythruddo'r rhai sy'n adeiladu!”

6. Felly dyma ni'n ailadeiladu'r wal. Roedd hi'n gyfan hyd at hanner ei huchder ac roedd y bobl yn frwd i weithio.

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 4