6. Ioiada fab Paseach a Meshwlam fab Besodeia oedd yn gweithio ar Giât Ieshana. Nhw wnaeth osod y trawstiau a'r drysau, y bolltau a'r barrau yn eu lle.
7. Yna roedd Melatia o Gibeon a Iadon o Meronoth yn gweithio ar y darn nesaf gyda dynion eraill o Gibeon a Mitspa (lle roedd llywodraethwr Traws-Ewffrates yn byw).
8. Wedyn roedd Wssiel fab Charhaia (aelod o Urdd y Gofaint Aur) yn atgyweirio'r darn nesaf, a Chananeia (aelod o Urdd y Gwerthwyr Persawr) yn atgyweirio'r darn ar ôl hwnnw. Nhw wnaeth drwsio wal Jerwsalem yr holl ffordd at y Wal Lydan.
9. Reffaia fab Hur, pennaeth hanner ardal Jerwsalem, oedd yn gweithio ar y darn nesaf.
10. Iedaia fab Charwmaff ar y darn ar ôl hwnnw, gyferbyn â'i dŷ, a Chattwsh fab Chashafneia ar y darn wedyn.
11. Roedd Malcîa fab Charîm a Chashwf fab Pachath-Moab yn gweithio ar ddarn arall ac ar Dŵr y Poptai.
12. Yna roedd Shalwm fab Halochesh, pennaeth hanner arall ardal Jerwsalem, yn gweithio ar y darn nesaf, gyda'i ferched yn ei helpu.
13. Chanŵn a pobl Sanoach oedd yn gweithio ar Giât y Dyffryn. Nhw wnaeth ei hailadeiladu, a gosod ei drysau, ei bolltau a'i barrau yn eu lle. Nhw hefyd wnaeth y gwaith ar y wal yr holl ffordd at Giât y Sbwriel – 450 metr i gyd.
14. Malcîa fab Rechab, pennaeth Ardal Beth-hacerem, oedd yn gweithio ar Giât y Sbwriel. Fe wnaeth ei hailadeiladu, a gosod y drysau, y bolltau a'r barrau yn eu lle.
15. Wedyn Shalwn fab Colchose, pennaeth ardal Mitspa, oedd yn gweithio ar Giât y Ffynnon. Ailadeiladodd hi, rhoi to arni, a gosod y drysau, bolltau a barrau yn eu lle. A fe hefyd wnaeth ailadeiladu'r wal o Bwll Siloam (wrth ymyl y gerddi brenhinol) yr holl ffordd at y grisiau sy'n mynd i lawr o Ddinas Dafydd.
16. Yna Nehemeia fab Asbwc, pennaeth hanner ardal Beth-tswr, oedd yn gweithio ar y darn nesaf, yr holl ffordd at fynwent Dafydd, y pwll artiffisial a barics y fyddin.
17. Lefiaid oedd yn gweithio ar y darnau nesaf – Rechwm fab Bani, ac wedyn Chashafeia, pennaeth hanner ardal Ceila.