Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 13:1-8 beibl.net 2015 (BNET)

1. Ar yr un diwrnod, pan oedd Cyfraith Moses yn cael ei darllen i bawb, dyma nhw'n darganfod fod pobl Ammon a Moab wedi eu gwahardd am byth rhag perthyn i gynulleidfa pobl Dduw.

2. Y rheswm am hynny oedd eu bod wedi gwrthod rhoi bwyd a dŵr i bobl Israel, ac wedi talu Balaam i'w melltithio nhw (er fod ein Duw ni wedi troi y felltith yn fendith!)

3. Felly pan glywon nhw hyn yn y Gyfraith, dyma pawb oedd o dras cymysg yn cael eu taflu allan.

4. Beth amser cyn hyn i gyd, roedd Eliashif yr offeiriad wedi ei benodi i fod yn gyfrifol am y stordai yn y deml. Roedd Eliashif yn perthyn i Tobeia,

5. ac roedd wedi gadael i Tobeia ddefnyddio un o stordai y deml. Pethau'r deml oedd yn arfer cael eu storio yno – yr offrwm o rawn, y thus, offer y deml, a hefyd y degfed rhan o'r grawn, sudd grawnwin, ac olew olewydd oedd i gael ei roi i'r Lefiaid, y cantorion, gofalwyr y giatiau, a cyfran yr offeiriaid.

6. Doeddwn i ddim yn byw yn Jerwsalem ar y pryd. Y flwyddyn pan oedd Artaxerxes, brenin Babilon, wedi bod yn teyrnasu ers tri deg dwy o flynyddoedd roeddwn i wedi mynd ato. Ond wedyn, beth amser ar ôl hynny, roeddwn i wedi gofyn am ganiatâd ganddo

7. i ddod yn ôl i Jerwsalem. A dyna pryd wnes i ddarganfod y drwg roedd Eliashif wedi ei wneud yn rhoi ystafell yng nghanol teml Dduw i Tobeia ei defnyddio.

8. Roeddwn i wedi gwylltio'n lân, a dyma fi'n gorchymyn clirio popeth oedd biau Tobeia allan o'r stordy.

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 13