Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 12:7-23 beibl.net 2015 (BNET)

7. Salw, Amoc, Chilceia, ac Idaïa.(Nhw oedd penaethiaid yr offeiriaid a'i cydweithwyr yng nghyfnod Ieshŵa.)

8. Ieshŵa, Binnŵi, Cadmiel, Sherefeia, Jwda, a Mataneia yn gyfrifol am y caneuon mawl.

9. Bacbwceia ac Wnni a'u cydweithwyr yn sefyll gyferbyn â nhw yn y gwasanaethau.

10. Roedd Ieshŵa yn dad i Ioiacim, Ioiacim yn dad i Eliashif, Eliashif yn dad i Ioiada,

11. Ioiada yn dad i Jonathan, a Jonathan yn dad i Iadwa.

12-21. Dyma'r offeiriaid oedd yn arweinwyr eu clan pan oedd Ioiacim yn archoffeiriad:Offeiriad Clan Meraia – o glan Seraia Chananeia – o glan Jeremeia Meshwlam – o glan Esra Iehochanan – o glan Amareia Jonathan – o glan Malwch Joseff – o glan Shefaneia Adna – o glan Charîm Chelcai – o glan Meraioth Sechareia – o glan Ido Meshwlam – o glan Ginnethon Sichri – o glan Abeia … – o glan Miniamîn Piltai – o glan Moadeia Shammwa – o glan Bilga Jonathan – o glan Shemaia Matenai – o glan Ioiarîf Wssi – o glan Idaïa Calai – o glan Salw Eber – o glan Amoc Chashafeia – o glan Chilceia Nethanel – o glan Idaïa

22. Wedyn, fel yr offeiriaid, cafodd y Lefiaid oedd yn arweinwyr eu claniau nhw eu rhestru (o gyfnod yr archoffeiriaid Eliashif, Ioiada, Iochanan a Iadwa hyd deyrnasiad Dareius o Persia).

23. Roedd cofrestr o'r Lefiaid oedd yn arweinwyr claniau hyd gyfnod Iochanan wedi ei gadw yn sgrôl y cofnodion hanesyddol.

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 12