Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 12:37-47 beibl.net 2015 (BNET)

37. Dyma nhw'n mynd dros Giât y Ffynnon, yna yn syth ymlaen i fyny grisiau Dinas Dafydd, heibio ei balas ac at Giât y Dŵr sydd i'r dwyrain.

38. Wedyn roedd yr ail gôr i fynd i'r cyfeiriad arall. Dyma fi'n eu dilyn nhw ar hyd y wal gyda hanner arall yr arweinwyr. Aethon ni heibio Tŵr y Poptai at y Wal Lydan,

39. dros Giât Effraim, Giât Ieshana, Giât y Pysgod, Tŵr Chanan-el, a Tŵr y Cant, at Giât y Defaid, a stopio wrth Giât y Gwarchodwyr.

40. Wedyn dyma'r ddau gôr oedd yn canu mawl yn cymryd eu lle yn y deml. Dyma finnau yn gwneud yr un fath, a'r grŵp o arweinwyr oedd gyda fi,

41. a'r offeiriaid oedd yn canu utgyrn – Eliacim, Maaseia, Miniamîn, Michaia, Elioenai, Sechareia a Chananeia.

42. Hefyd Maaseia, Shemaia, Eleasar, Wssi, Iehochanan, Malcîa, Elam ac Eser. Yna dyma'r corau yn canu dan arweiniad Israchïa.

43. Roedd yn ddiwrnod o ddathlu a cafodd llawer iawn o aberthau eu cyflwyno. Roedd Duw wedi gwneud pawb mor hapus. Roedd y gwragedd a'r plant yno yn dathlu hefyd, ac roedd sŵn y dathlu yn Jerwsalem i'w glywed o bell.

44. Y diwrnod hwnnw cafodd dynion eu penodi i ofalu am y stordai, lle byddai cyfraniadau'r bobl yn cael eu cadw – y ffrwythau cyntaf, a'r degymau. Dyna lle byddai cyfraniadau'r bobl i'r offeiriaid a'r Lefiaid yn cael eu casglu, yn ôl faint o gaeau oedd yn perthyn i bob pentref. Roedd pobl Jwda yn falch o'r offeiriaid a'r Lefiaid oedd yn gwasanaethu.

45. Nhw, gyda'r cantorion a gofalwyr y giatiau, oedd yn arwain y defodau ac yn cynnal seremonïau'r puro, fel gwnaeth y brenin Dafydd a'i fab Solomon orchymyn.

46. Ers pan oedd y brenin Dafydd ac Asaff yn fyw, roedd yna rai yn arwain y cantorion, a'r caneuon o fawl a diolch i Dduw.

47. Felly yn amser Serwbabel a Nehemeia fel llywodraethwyr, roedd pobl Israel i gyd yn rhoi cyfran i'r cantorion a'r gofalwyr, fel roedd angen bob dydd. Roedden nhw hefyd yn cadw cyfran i'r Lefiaid, ac roedd y Lefiaid yn cadw cyfran i'r offeiriaid, disgynyddion Aaron.

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 12