Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 12:27-42 beibl.net 2015 (BNET)

27. Pan oedd wal Jerwsalem yn cael ei chysegru, dyma'r Lefiaid o bob man yn cael eu galw i Jerwsalem i gymryd rhan yn y dathlu. Roedden nhw yno yn canu caneuon o ddiolch i gyfeiliant symbalau, nablau a thelynau.

28. Roedd y cantorion wedi eu casglu hefyd, o'r ardal o gwmpas Jerwsalem a pentrefi Netoffa,

29. Beth-gilgal, a'r wlad o gwmpas Geba ac Asmafeth. (Roedd y cantorion wedi codi pentrefi iddyn nhw eu hunain o gwmpas Jerwsalem.)

30. Pan oedd yr offeiriaid a'r Lefiaid wedi mynd trwy'r ddefod o buro eu hunain, dyma nhw'n cysegru'r bobl, y giatiau, a'r wal.

31. Trefnais i arweinwyr Jwda sefyll ar dop y wal, a cael dau gôr i ganu mawl. Roedd un côr i arwain yr orymdaith ar y wal i gyfeiriad y de at Giât y Sbwriel.

32. Yn eu dilyn nhw roedd Hoshaia a hanner arweinwyr Jwda.

33. Wedyn Asareia, Esra a Meshwlam,

34. Jwda, Benjamin, Shemaia, a Jeremeia –

35. offeiriaid gydag utgyrn. Yna'n olaf Sechareia fab Jonathan (mab Shemaia, mab Mataneia, mab Michaia, mab Saccwr, mab Asaff)

36. a'i gyd-gerddorion – Shemaia, Asarel, Milalai, Gilalai, Maai, Nethanel, Jwda, a Chanani – gyda'r offerynnau cerdd oedd y brenin duwiol Dafydd wedi eu dewis. (Esra yr arbenigwr yn y Gyfraith oedd yn arwain y grŵp yma).

37. Dyma nhw'n mynd dros Giât y Ffynnon, yna yn syth ymlaen i fyny grisiau Dinas Dafydd, heibio ei balas ac at Giât y Dŵr sydd i'r dwyrain.

38. Wedyn roedd yr ail gôr i fynd i'r cyfeiriad arall. Dyma fi'n eu dilyn nhw ar hyd y wal gyda hanner arall yr arweinwyr. Aethon ni heibio Tŵr y Poptai at y Wal Lydan,

39. dros Giât Effraim, Giât Ieshana, Giât y Pysgod, Tŵr Chanan-el, a Tŵr y Cant, at Giât y Defaid, a stopio wrth Giât y Gwarchodwyr.

40. Wedyn dyma'r ddau gôr oedd yn canu mawl yn cymryd eu lle yn y deml. Dyma finnau yn gwneud yr un fath, a'r grŵp o arweinwyr oedd gyda fi,

41. a'r offeiriaid oedd yn canu utgyrn – Eliacim, Maaseia, Miniamîn, Michaia, Elioenai, Sechareia a Chananeia.

42. Hefyd Maaseia, Shemaia, Eleasar, Wssi, Iehochanan, Malcîa, Elam ac Eser. Yna dyma'r corau yn canu dan arweiniad Israchïa.

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 12