22. Wedyn, fel yr offeiriaid, cafodd y Lefiaid oedd yn arweinwyr eu claniau nhw eu rhestru (o gyfnod yr archoffeiriaid Eliashif, Ioiada, Iochanan a Iadwa hyd deyrnasiad Dareius o Persia).
23. Roedd cofrestr o'r Lefiaid oedd yn arweinwyr claniau hyd gyfnod Iochanan wedi ei gadw yn sgrôl y cofnodion hanesyddol.
24. Arweinwyr y Lefiaid: Chashafeia, Sherefeia, Iehoshwa, BinnĊµi, a Cadmiel. Yna eu cydweithwyr oedd yn sefyll gyferbyn â nhw i foli a diolch i Dduw (Roedd un côr yn wynebu y llall fel roedd Dafydd, dyn Duw, wedi dweud.)
25. Yna Mataneia, Bacbwceia, Obadeia, Meshwlam, Talmon ac Accwf yn ofalwyr yn gwarchod y drysau i'r stordai wrth y giatiau.