Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 11:16-30 beibl.net 2015 (BNET)

16. Shabbethai a Iosafad, arweinwyr y Lefiaid, oedd yn gyfrifol am y gwaith allanol ar deml Dduw;

17. Mataneia fab Micha (mab Sabdi ac ŵyr i Asaff), oedd yn arwain y gweddi ar mawl;Bacbwceia oedd ei ddirprwy; acAfda fab Shammwa (mab Galal, mab Iedwthwn).

18. (Cyfanswm y Lefiaid oedd yn byw yn y ddinas sanctaidd oedd 284).

19. Yna gofalwyr y giatiau:Accwf, Talmon a'r rhai oedd yn gwarchod y giatiau gyda nhw – 172.

20. Roedd gweddill pobl Israel, a gweddill yr offeiriad a'r Lefiaid, yn byw yn eu tai eu hunain yn y trefi eraill yn Jwda.

21. Roedd gweithwyr y deml yn byw yn Offel, a Sicha a Gishpa oedd yn gyfrifol amdanyn nhw.

22. Rheolwr y Lefiaid yn Jerwsalem oedd Wssi fab Bani (mab Chashafeia, mab Mataneia, mab Micha), oedd yn un o ddisgynyddion Asaff, sef y cantorion oedd yn arwain yr addoliad yn nheml Dduw.

23. Roedd brenin Persia wedi gorchymyn fod cyfran i'w roi iddyn nhw bob dydd.

24. Ac roedd Pethacheia fab Meshesafel (o glan Serach o lwyth Jwda) ar gael i roi cyngor i'r brenin am faterion yn ymwneud â'r bobl.

25. I droi at y pentrefi a'r tiroedd o'u cwmpas nhw:Dyma bobl llwyth Jwda yn setlo yn Ciriath-arba a'r pentrefi o'i chwmpas, Dibon a'i phentrefi, Icaftseël a'i phentrefi,

26. Ieshŵa, Molada, Beth-pelet,

27. Chatsar-shwal, a Beersheba a'i phentrefi,

28. Siclag a Mechona a'i phentrefi,

29. En-rimmon, Sora, Iarmwth,

30. Sanoach, Adwlam, a'u pentrefi. Lachish a'i thiroedd, ac Aseca a'i phentrefi. Roedden nhw wedi setlo drwy'r wlad i gyd, o Beersheba yn y de i ddyffryn Hinnom yn y gogledd.

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 11