16. Shabbethai a Iosafad, arweinwyr y Lefiaid, oedd yn gyfrifol am y gwaith allanol ar deml Dduw;
17. Mataneia fab Micha (mab Sabdi ac ŵyr i Asaff), oedd yn arwain y gweddi ar mawl;Bacbwceia oedd ei ddirprwy; acAfda fab Shammwa (mab Galal, mab Iedwthwn).
18. (Cyfanswm y Lefiaid oedd yn byw yn y ddinas sanctaidd oedd 284).
19. Yna gofalwyr y giatiau:Accwf, Talmon a'r rhai oedd yn gwarchod y giatiau gyda nhw – 172.
20. Roedd gweddill pobl Israel, a gweddill yr offeiriad a'r Lefiaid, yn byw yn eu tai eu hunain yn y trefi eraill yn Jwda.