13. a'i perthnasau oedd yn arweinwyr y clan – 242;Amash'sai fab Asarel (mab Achsai, mab Meshilemoth, mab Immer,)
14. a'i berthnasau, y dynion dewr eraill oedd yn gweithio gydag e – 128. (Safdiel fab Hagedolîm oedd y swyddog yn gyfrifol amdanyn nhw).
15. O'r Lefiaid:Shemaia fab Chashwf (mab Asricam, mab Chashafeia fab Bwnni);
16. Shabbethai a Iosafad, arweinwyr y Lefiaid, oedd yn gyfrifol am y gwaith allanol ar deml Dduw;
17. Mataneia fab Micha (mab Sabdi ac ŵyr i Asaff), oedd yn arwain y gweddi ar mawl;Bacbwceia oedd ei ddirprwy; acAfda fab Shammwa (mab Galal, mab Iedwthwn).
18. (Cyfanswm y Lefiaid oedd yn byw yn y ddinas sanctaidd oedd 284).
19. Yna gofalwyr y giatiau:Accwf, Talmon a'r rhai oedd yn gwarchod y giatiau gyda nhw – 172.
20. Roedd gweddill pobl Israel, a gweddill yr offeiriad a'r Lefiaid, yn byw yn eu tai eu hunain yn y trefi eraill yn Jwda.
21. Roedd gweithwyr y deml yn byw yn Offel, a Sicha a Gishpa oedd yn gyfrifol amdanyn nhw.
22. Rheolwr y Lefiaid yn Jerwsalem oedd Wssi fab Bani (mab Chashafeia, mab Mataneia, mab Micha), oedd yn un o ddisgynyddion Asaff, sef y cantorion oedd yn arwain yr addoliad yn nheml Dduw.
23. Roedd brenin Persia wedi gorchymyn fod cyfran i'w roi iddyn nhw bob dydd.