Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 11:1-13 beibl.net 2015 (BNET)

1. Roedd arweinwyr y bobl wedi setlo yn Jerwsalem. A dyma gweddill y bobl yn taflu coelbren i benderfynu pwy arall oedd i symud i fyw i'r ddinas gysegredig. Roedd un o bob deg i fynd i Jerwsalem, a'r gweddill i fyw yn y trefi eraill.

2. A dyma'r bobl yn bendithio'r dynion hynny wnaeth wirfoddoli i aros yn Jerwsalem.

3. Dyma restr o arweinwyr y dalaith wnaeth setlo yn Jerwsalem (Roedd y rhan fwya o bobl Israel yn byw yn eu tai eu hunain yn y trefi eraill yn Jwda – a'r offeiriaid, Lefiaid, gweithwyr y deml, a disgynyddion gweision Solomon.

4. Ond symudodd rhai o ddisgynyddion Jwda a Benjamin i fyw yn Jerwsalem.)O lwyth Jwda:Athaia fab Wseia (mab Sechareia, mab Amareia, mab Sheffateia, mab Mahalal-el, o glan Perets);

5. Maaseia fab Barŵch (mab Colchose, mab Chasaia, mab Adaia, mab Ioiarîf, mab Sechareia, o glan Shela fab Jwda).

6. (Cyfanswm disgynyddion Perets, y bobl ddewr wnaeth setlo yn Jerwsalem oedd 468.)

7. O lwyth Benjamin:Salw fab Meshwlam (mab Ioed, mab Pedaia, mab Colaia, mab Maaseia, mab Ithiel, mab Ieshaia,)

8. a'r rhai oedd yn ei ddilyn, Gabai a Salai – 928 i gyd.

9. (Joel fab Sichri oedd y swyddog oedd yn gyfrifol amdanyn nhw, a Jwda fab Hasenŵa oedd ei ddirprwy yn y ddinas.)

10. O'r offeiriaid:Idaïa fab Ioiarîf, Iachin,

11. Seraia fab Chilceia (mab Meshwlam, mab Sadoc, mab Meraioth, mab Achitwf) sef archoffeiriad teml Dduw,

12. a'i perthnasau oedd yn gweithio gyda nhw yn y deml – 822.Adaia fab Ierocham (mab Pelaleia, mab Amtsi, mab Sechareia, mab Pashchwr, mab Malcîa),

13. a'i perthnasau oedd yn arweinwyr y clan – 242;Amash'sai fab Asarel (mab Achsai, mab Meshilemoth, mab Immer,)

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 11