Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 1:1-8 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma adroddiad gan Nehemeia fab Hachaleia:Roedd hi'n fis Cislef yn ugeinfed flwyddyn teyrnasiad Artaxerxes, ac roeddwn i yn y gaer ddinesig yn Shwshan.

2. Dyma Chanani (oedd yn perthyn i mi) a dynion eraill o Jwda, yn dod i'm gweld i. A dyma fi'n eu holi nhw am yr Iddewon oedd wedi gadael y gaethglud, a sut oedd pethau yn Jerwsalem.

3. A dyma nhw'n ateb, “Mae hi'n galed ar y bobl sydd wedi mynd yn ôl i'r dalaith o'r gaethglud. Maen nhw'n cael amser anodd. Mae wal Jerwsalem wedi ei chwalu, a'r giatiau wedi eu llosgi.”

4. Pan glywais hyn i gyd, dyma fi'n eistedd i lawr. Roeddwn i'n crïo ac yn galaru am ddyddiau, a bues i'n ymprydio ac yn gweddïo ar Dduw y nefoedd.

5. A dyma fi'n dweud, “O ARGLWYDD, Duw y nefoedd, plîs! Ti'n Dduw mawr a rhyfeddol, yn Dduw mor hael, ac yn cadw dy ymrwymiad i'r rhai sy'n dy garu di ac yn gwneud beth ti'n ddweud.

6. O, plîs edrych a gwrando ar weddi dy was. Gwranda ar beth dw i'n ei weddïo ddydd a nos ar ran dy weision, pobl Israel. Dw i'n cyffesu ein bod ni wedi pechu yn dy erbyn di – fi a'm teulu, a pobl Israel i gyd.

7. Dŷn ni wedi ymddwyn yn ofnadwy, ac heb gadw'r gorchmynion, y rheolau a'r canllawiau wnest ti eu rhoi i dy was Moses.

8. Plîs cofia beth ddwedaist ti wrth Moses: ‘Os byddwch chi'n anffyddlon, bydda i'n eich gyrru chi ar chwâl drwy'r gwledydd.

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 1