Hen Destament

Testament Newydd

Nahum 3:8-13 beibl.net 2015 (BNET)

8. Wyt ti'n saffach na Thebes,ar lan yr afon Nil?Roedd y dŵr fel môr yn glawdd o'i chwmpas,a'r afon fel rhagfur iddi.

9. Roedd yn rheoli'r Aifft a dwyrain Affrica;roedd ei grym yn ddi-ben-draw!– mewn cynghrair â Pwt a Libia.

10. Ond cafodd ei phobl eu caethgludo,a'i phlant bach eu curo i farwolaethar gornel pob stryd.Roedden nhw'n gamblo am ei phobl bwysig,ac yn rhwymo ei harweinwyr â chadwyni.

11. Byddi dithau hefyd yn feddwac wedi dy faeddu.Byddi dithau'n ceisio cuddiorhag y gelyn.

12. Bydd dy gaerau i gyd fel coed ffigysgyda'i ffrwythau cynta'n aeddfed.O'u hysgwyd bydd y ffrwyth yn syrthioi gegau'r rhai sydd am eu bwyta!

13. Bydd dy filwyr fel merched gwan yn dy ganol;a giatiau dy wlad ar agor i'r gelyn;bydd tân yn llosgi'r barrau sy'n eu cloi.

Darllenwch bennod gyflawn Nahum 3