Hen Destament

Testament Newydd

Nahum 3:10-19 beibl.net 2015 (BNET)

10. Ond cafodd ei phobl eu caethgludo,a'i phlant bach eu curo i farwolaethar gornel pob stryd.Roedden nhw'n gamblo am ei phobl bwysig,ac yn rhwymo ei harweinwyr â chadwyni.

11. Byddi dithau hefyd yn feddwac wedi dy faeddu.Byddi dithau'n ceisio cuddiorhag y gelyn.

12. Bydd dy gaerau i gyd fel coed ffigysgyda'i ffrwythau cynta'n aeddfed.O'u hysgwyd bydd y ffrwyth yn syrthioi gegau'r rhai sydd am eu bwyta!

13. Bydd dy filwyr fel merched gwan yn dy ganol;a giatiau dy wlad ar agor i'r gelyn;bydd tân yn llosgi'r barrau sy'n eu cloi.

14. Dos i dynnu dŵr i'w gadw ar gyfer y gwarchae!Cryfha dy gaerau!Cymer fwd a sathra'r clai,a gwneud brics yn y mowld!

15. Bydd tân yn dy losgi di yno,a'r cleddyf yn dy dorri i lawr –cei dy ddifa fel cnwd gan lindys.Lluosoga fel y lindys,ac fel y locust ifanc;

16. roedd gen ti fwy o fasnachwyrnag sydd o sêr yn yr awyr.Ond maen nhw fel lindys yn bwrw'i groen a hedfan i ffwrdd.

17. Roedd dy warchodwyr a'th weision sifilfel haid o locustiaid yn eistedd ar waliau ar ddiwrnod oer;ond pan mae'r haul yn codi maen nhw'n hedfan i ffwrdd,a does neb yn gwybod i ble.

18. Mae dy fugeiliaid yn cysgu, frenin Asyria!Mae dy arweinwyr yn pendwmpian!Mae dy bobl fel defaid ar wasgar dros y bryniau,a does neb i'w casglu.

19. Does dim gwella ar dy glwyf –mae dy anaf yn farwol.Bydd pawb fydd yn clywed y newyddion amdanatyn dathlu a curo dwylo.Oes rhywun wnaeth ddiancrhag dy greulondeb diddiwedd?

Darllenwch bennod gyflawn Nahum 3