Hen Destament

Testament Newydd

Nahum 3:1-12 beibl.net 2015 (BNET)

1. Gwae ddinas y tywallt gwaed,sy'n llawn celwyddauac yn llawn trais,a'r lladd byth yn stopio!

2. Daeth sŵn clec y chwip a thwrw'r olwynion,meirch yn carlamu a cherbydau'n crynu!

3. Marchogion yn ymosod,cleddyfau'n fflachio,gwaywffyn yn disgleirio!Pobl wedi eu lladd ym mhobman;tomenni diddiwedd o gyrff –maen nhw'n baglu dros y meirwon!

4. A'r cwbl o achos drygioni'r butainddeniadol oedd yn feistres swynion,yn gwerthu ei hun i'r cenhedloedda swyno a thwyllo pobloedd.

5. “Dw i'n mynd i ddelio gyda ti,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.“Bydda i'n dy gywilyddio di –yn codi dy sgert dros dy wyneb;bydd y cenhedloedd yn dy weld yn noetha theyrnasoedd yn gweld dy rannau preifat!

6. Bydda i'n taflu budreddi ar dy ben,a'th wneud yn destun sbort ac yn sioe.

7. Fydd neb yn gallu edrych yn hir –Bydd pawb yn troi i ffwrdd a dweud,‘Mae Ninefe'n adfeilion,a does neb yn cydymdeimlo!’Ble wna i ddod o hyd i rywun i dy gysuro di, Ninefe?”

8. Wyt ti'n saffach na Thebes,ar lan yr afon Nil?Roedd y dŵr fel môr yn glawdd o'i chwmpas,a'r afon fel rhagfur iddi.

9. Roedd yn rheoli'r Aifft a dwyrain Affrica;roedd ei grym yn ddi-ben-draw!– mewn cynghrair â Pwt a Libia.

10. Ond cafodd ei phobl eu caethgludo,a'i phlant bach eu curo i farwolaethar gornel pob stryd.Roedden nhw'n gamblo am ei phobl bwysig,ac yn rhwymo ei harweinwyr â chadwyni.

11. Byddi dithau hefyd yn feddwac wedi dy faeddu.Byddi dithau'n ceisio cuddiorhag y gelyn.

12. Bydd dy gaerau i gyd fel coed ffigysgyda'i ffrwythau cynta'n aeddfed.O'u hysgwyd bydd y ffrwyth yn syrthioi gegau'r rhai sydd am eu bwyta!

Darllenwch bennod gyflawn Nahum 3