Hen Destament

Testament Newydd

Nahum 2:6-13 beibl.net 2015 (BNET)

6. Mae'r llifddorau'n agora'r palas ar fin syrthio.

7. Stripio'r frenhines a'i chymryd i'r gaethglud,a'i morynion yn cŵan fel colomennod,yn galaru gan guro eu bronnau.

8. Mae Ninefe fel argae wedi torri –mae pawb yn dianc ohoni!“Stopiwch! Stopiwch!” –ond does neb yn troi yn ôl.

9. “Cymerwch yr arian! Cymerwch yr aur!”Mae trysorau Ninefe'n ddiddiwedd;mae pob math o bethau gwerthfawr ynddi!

10. Distryw, difrod, a dinistr!Calonnau'n toddi, gliniau'n crynu,lwynau gwan, wynebau gwelw!

11. Beth sydd wedi digwydd i ffau'r llewod?Ble mae'r llewod ifanc i gael eu bwydo?Byddai'r llew a'r llewes yn cerdded yno,a'u cenawon yn saff, a neb yn eu tarfu.

12. Ble mae'r llew oedd yn rhwygo'i ysglyfaeth –ei ladd i'w lewesau a'i roi i'w rai bach?Roedd ei ogof yn llawn ysglyfaetha'i ffau'n llawn cnawd wedi ei ddryllio.

13. “Dw i'n mynd i ddelio gyda ti,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.“Bydda i'n llosgi dy gerbydau'n llwyr;bydd dy ‛lewod ifanc‛ yn marw'n y frwydr.Dw i'n mynd i gael gwared â'th ysglyfaeth o'r tir,a fydd neb eto'n clywed llais dy negeswyr.”

Darllenwch bennod gyflawn Nahum 2