Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3

Hen Destament

Testament Newydd

Nahum 1 beibl.net 2015 (BNET)

Yr ARGLWYDD yn dial ar Ninefe (Prifddinas Asyria)

1. Neges am ddinas Ninefe: Cofnod o weledigaeth Nahum o Elcosh.

2. Mae'r ARGLWYDD yn Dduw eiddigeddus sy'n dial;Mae'r ARGLWYDD yn dial, ac mae ei ddicter yn ffyrnig.Mae'r ARGLWYDD yn dial ar ei elynion,ac yn wyllt gyda'i wrthwynebwyr.

3. Mae'r ARGLWYDD yn amyneddgarac yn gryf –ond dydy e ddim yn gadael i'r euog osgoi'r gosb.Mae'n martsio yn y corwynt a'r storm,ac mae'r cymylau fel llwch dan ei draed.

4. Mae'n gweiddi ar y môr a'i sychu,ac yn sychu'r afonydd i gyd.Mae porfa Bashan a Carmel yn gwywo,ac mae blodau Libanus yn gwywo.

5. Mae'r mynyddoedd yn crynua'r bryniau'n toddi o'i flaen.Mae'r tir yn troi'n ddiffeithwch o'i flaen,y byd, a phopeth sy'n byw ynddo.

6. Pwy all oroesi o flaen ei ddicter?Pwy all wrthsefyll ei ffyrnigrwydd?Mae'n tywallt ei lid fel tân,ac mae'r creigiau'n cael eu dryllio ganddo.

7. Mae'r ARGLWYDD yn dda,ac yn gaer ddiogel mewn argyfwng;Mae'n gofalu am y rhai sy'n troi ato am help.

8. Ond mae'n gyrru ei elynion i'r tywyllwch;fel llifogydd sy'n ysgubo popeth ymaith,bydd yn rhoi diwedd ar Ninefe'n llwyr.

9. Unrhyw gynlluniau sydd gen ti yn ei erbyn,bydd yr ARGLWYDD yn eu dinistrio'n llwyr:fydd ei elyn ddim yn codi yn ei erbyn yr ail waith!

10. Byddan nhw fel dynion wedi meddwi'n gaib;Byddan nhw'n cael eu llosgi fel drysni o ddrain,neu fonion gwellt wedi sychu'n llwyr.

11. Ohonot ti, Ninefe, y daeth unoedd yn cynllwynio drwg yn erbyn yr ARGLWYDD– strategydd drygioni!

12. Ond dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Er eu bod nhw'n gryf ac yn niferus,byddan nhw'n cael eu torri i lawr, ac yn diflannu.Er fy mod i wedi dy gosbi di, Jwda,fydda i ddim yn dy gosbi di eto;

13. dw i'n mynd i dorri'r iau roddodd e ar dy wara dryllio'r rhaffau sy'n dy rwymo.”

14. Mae'r ARGLWYDD wedi datgan am Ninefe:“Fydd gen ti ddim disgynyddion bellach.Dw i'n mynd i gael gwared â'r eilunoda'r delwau metel o demlau dy dduwiau.Bydda i'n paratoi bedd i tifydd yn dangos mor ddibwys oeddet ti.”

15. Edrychwch! Mae negesydd yn dod dros y mynyddoeddyn cyhoeddi heddwch!“Dathla dy wyliau crefyddol, O Jwda,a chadw dy addewidion!Fydd y rhai drwg byth yn dy orchfygu eto;byddan nhw'n cael eu dinistrio'n llwyr.”