Hen Destament

Testament Newydd

Micha 7:7-15 beibl.net 2015 (BNET)

7. Dw i am droi at yr ARGLWYDD am help.Dw i'n disgwyl yn hyderus am y Duw sy'n achub.Dw i'n gwybod y bydd e'n gwrando arna i.

8. “Peidiwch dathlu'n rhy fuan, elynion!Er fy mod wedi syrthio, bydda i'n codi eto.Er bod pethau'n dywyll ar hyn o bryd,bydd yr ARGLWYDD yn olau i mi.

9. Rhaid i mi oddef cosb yr ARGLWYDDam fy mod wedi pechu yn ei erbyn.Ond yna bydd e'n ochri gyda miac yn ennill yr achos ar fy rhan.Bydd yn fy arwain i allan i'r golau;bydda i'n cael fy achub ganddo.

10. Bydd fy ngelynion yn gweld hyn,a byddan nhw'n profi siom ac embaras.Fi fydd yn dathlu, wrth eu gweld nhw,y rhai oedd yn dweud, ‘Ble mae dy Dduw di?’,yn cael eu sathru fel baw ar y strydoedd.”

11. Y fath ddiwrnod fydd hwnnw! –diwrnod i ailadeiladu dy waliau;diwrnod i ehangu dy ffiniau!

12. Diwrnod pan fydd pobl yn dod atatyr holl ffordd o Asyria i drefi'r Aifft,o'r Aifft i'r Afon Ewffrates,o un arfordir i'r llall, ac o'r mynyddoedd pellaf.

13. Ond bydd gweddill y ddaear yn ddiffaith,o achos y ffordd mae pobl wedi byw.

14. ARGLWYDD, tyrd i fugeilio dy bobl,dy braidd arbennig dy hun;y rhai sy'n byw'n unig mewn tir llawn drysnitra mae porfa fras o'u cwmpas.Gad iddyn nhw bori ar gaeau Bashan a Gilead,fel roedden nhw'n gwneud ers talwm.

15. Gad iddyn nhw weld dy wyrthiau,fel yr adeg pan aethon nhw allan o wlad yr Aifft!

Darllenwch bennod gyflawn Micha 7