Hen Destament

Testament Newydd

Micha 7:1-9 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dw i mor ddigalon!Dw i fel rhywun yn chwilio'n daer am ffrwythar ôl i'r ffrwythau haf a'r grawnwin gael eu casglu.Does dim un swp o rawnwin ar ôl,na'r ffigys cynnar dw i mor hoff ohonyn nhw.

2. Does neb caredig a hael ar ôl yn y wlad!Mae'r bobl onest i gyd wedi mynd.Mae pawb yn edrych am gyfle i ymosod ar rywun arall;maen nhw fel helwyr yn gosod trapiau i'w gilydd.

3. Maen nhw'n rai da am wneud drwg! –mae arweinwyr a barnwyr yn derbyn breib;does ond rhaid i'r pwysigion ddweud beth maen nhw eisiaua byddan nhw'n dyfeisio rhyw sgam i'w bodloni.

4. Mae'r gorau ohonyn nhw fel drain,a'r mwya gonest fel llwyn o fieri.Mae'r gwylwyr wedi'ch rhybuddio;mae dydd y farn yn dod ar frys –mae anhrefn llwyr ar ei ffordd!

5. Peidiwch trystio neb!Allwch chi ddim dibynnu ar eich ffrindiau,na hyd yn oed eich gwraig –peidiwch dweud gair wrthi hi!

6. Fydd mab ddim yn parchu ei dad,a bydd merch yn herio ei mam;merch-yng-nghyfraith yn erbyn mam-yng-nghyfraith –eich gelynion pennaf fydd eich teulu agosaf!

7. Dw i am droi at yr ARGLWYDD am help.Dw i'n disgwyl yn hyderus am y Duw sy'n achub.Dw i'n gwybod y bydd e'n gwrando arna i.

8. “Peidiwch dathlu'n rhy fuan, elynion!Er fy mod wedi syrthio, bydda i'n codi eto.Er bod pethau'n dywyll ar hyn o bryd,bydd yr ARGLWYDD yn olau i mi.

9. Rhaid i mi oddef cosb yr ARGLWYDDam fy mod wedi pechu yn ei erbyn.Ond yna bydd e'n ochri gyda miac yn ennill yr achos ar fy rhan.Bydd yn fy arwain i allan i'r golau;bydda i'n cael fy achub ganddo.

Darllenwch bennod gyflawn Micha 7