Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7

Hen Destament

Testament Newydd

Micha 6 beibl.net 2015 (BNET)

Yr ARGLWYDD yn cyhuddo ei bobl

1. Gwrandwch beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Codwch i amddiffyn eich hunaino flaen y bryniau a'r mynyddoedd!

2. Chi fynyddoedd a sylfeini'r ddaeargwrandwch ar gyhuddiad yr ARGLWYDD.”(Mae'n dwyn achos yn erbyn ei bobl.Mae ganddo ddadl i'w setlo gydag Israel.)

3. “Fy mhobl, beth wnes i o'i le?Beth wnes i i'ch diflasu chi? Atebwch!

4. Fi wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft,a'ch rhyddhau o fod yn gaethweision.Anfonais Moses i'ch arwain,ac Aaron a Miriam gydag e.

5. Fy mhobl, cofiwch beth roedd Balac, brenin Moab, am ei wneud,a sut wnaeth Balaam fab Beor ei ateb.Cofiwch beth ddigwyddodd rhwng Sittim a Gilgal –i chi weld fod yr ARGLWYDD wedi eich trin yn deg.”

Beth ddylai ymateb y bobl fod?

6. Sut alla i dalu i'r ARGLWYDD?Beth sydd gen i i'w gynnig wrth blygui addoli y Duw mawr?Ydy aberthau i'w llosgi yn ddigon?Y lloi gorau i'w llosgi'n llwyr?Fyddai mil o hyrddod yn ei blesio,neu afonydd diddiwedd o olew olewydd?

7. Ddylwn i aberthu fy mab hynafyn dâl am wrthryfela? –rhoi bywyd fy mhlentyn am fy mhechod?

8. Na, mae'r ARGLWYDD wedi dweud beth sy'n dda,a beth mae e eisiau gen ti:Hybu cyfiawnder, bod yn hael bob amser,a byw'n wylaidd ac ufudd i dy Dduw.

Bydd yr ARGLWYDD yn cosbi'r arweinwyr

9. “Gwrandwch!” Mae'r ARGLWYDD yn galw pobl Jerwsalem –(Mae'n beth doeth i barchu dy enw, o Dduw.)“Gwrandwch lwyth Jwda a'r rhai sy'n casglu yn y ddinas!

10. Ydw i'n mynd i anwybyddu'r trysorau a gawsoch trwy dwyll,a'r mesur prin, sy'n felltith?

11. Fyddai'n iawn i mi oddef y clorian sy'n dweud celwydd,a'r bag o bwysau ysgafn?

12. Mae'r cyfoethog yn treisio'r tlawd,a'r bobl i gyd yn dweud celwydd –twyll ydy eu hiaith gyntaf nhw!

13. Dw i'n mynd i'ch taro a'ch anafu'n ddifrifol,cewch eich dinistrio am bechu.

14. Byddwch yn bwyta,ond byth yn cael digon.Bydd eich plentyn yn marw'n y groth,cyn cael ei eni;a bydda i'n gadael i'r cleddyf laddy rhai sy'n cael eu geni!

15. Byddwch yn plannu cnydauond byth yn medi'r cynhaeaf.Byddwch yn gwasgu'r olewyddond gewch chi ddim defnyddio'r olew.Byddwch yn sathru'r grawnwin,ond gewch chi ddim yfed y gwin.

16. Dych chi'n cadw deddfau drwg y brenin Omri,ac efelychu arferion drwg y brenin Ahab! –a dilyn eu polisïau pwdr.Felly bydda i'n eich dinistrio chi,a bydd pobl yn eich gwawdioac yn gwneud sbort am eich pen.”