Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7

Hen Destament

Testament Newydd

Micha 5 beibl.net 2015 (BNET)

1. Ar hyn o bryd rwyt ti'n torri dy hun â chyllyllti ddinas dan ymosodiad!Mae'r gelyn yn gwarchae arnon ni!Maen nhw'n taro arweinydd Israelar y foch gyda theyrnwialen.

Y brenin sydd i ddod

2. Ond wedyn ti, Bethlehem Effrata,rwyt ti'n un o'r pentrefilleiaf pwysig yn Jwda.Ond ohonot ti y daw unfydd yn teyrnasu yn Israel –Un sydd â'i wreiddiau yn mynd yn ôli'r dechrau yn y gorffennol pell.

3. Felly bydd yr ARGLWYDDyn rhoi pobl Israel i'r gelyn,hyd nes bydd yr un sy'n cael y babiwedi geni'r plentyn.Wedyn bydd gweddill ei deulu yn dod adreat blant Israel.

4. Bydd yn codi i arwain ei boblfel bugail yn gofalu am ei braidd.Bydd yn gwneud hyn yn nerth yr ARGLWYDDa gydag awdurdod yr ARGLWYDD ei Dduw.Byddan nhw yno i aros,achos bydd e'n cael ei anrhydeddugan bawb i ben draw'r byd.

Yr ARGLWYDD yn achub ei bobl

5. Bydd e'n dod â heddwch i ni.Os bydd Asyria'n ymosod ar ein tirac yn ceisio mynd i mewn i'n plastai,bydd digon o arweinwyr i'w rhwystro!

6. Byddan nhw'n rheoli Asyria gyda'r cleddyf;gwlad Nimrod gyda llafnau parod!Bydd ein brenin yn ein hachubpan fydd Asyria'n ymosod ar ein gwlad,ac yn ceisio croesi ein ffiniau.

Yr ARGLWYDD yn cosbi ei bobl

7. Bydd pobl Jacob sydd ar ôlar wasgar yng nghanol y bobloedd,fel y gwlith mae'r ARGLWYDD yn ei anfon,neu gawodydd o law ar laswellt –sydd ddim yn dibynnu ar boblna disgwyl am eu caniatâd cyn dod.

8. Bydd pobl Jacob sydd ar ôlyn byw yn y gwledydd,ar wasgar yng nghanol y bobloedd.Byddan nhw fel llew yng nghanol yr anifeiliaid gwylltion,neu lew ifanc yng nghanol praidd o ddefaid –yn rhydd i ladd a rhwygoheb neb i'w stopio.

9. Byddi'n codi dy law i daro'r rhai sy'n dy erbyn,a dinistrio dy elynion i gyd!

Yr ARGLWYDD yn puro ei bobl

10. “Bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD,“bydda i'n cael gwared â'ch arfau i gyd –y ceffylau a'r cerbydau rhyfel.

11. Bydda i'n dinistrio trefi'r wladac yn bwrw i lawr y caerau amddiffynnol.

12. Bydda i'n stopio eich dewino a'ch swynion,a fydd neb ar ôl i ddweud ffortiwn.

13. Bydda i'n dinistrio eich delwau cerfiediga'ch colofnau cysegredig.Fyddwch chi byth eto yn plygui addoli gwaith eich dwylo eich hunain.

14. Bydda i'n diwreiddio polion y dduwies Ashera,ac yn dinistrio eich eilun-dduwiau.

15. Bydda i'n dial yn wylltar y gwledydd sy'n gwrthod gwrando arna i.”