Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7

Hen Destament

Testament Newydd

Micha 4 beibl.net 2015 (BNET)

Mae dyddiau gwell i ddod

1. Yn y dyfodol, bydd mynydd teml yr ARGLWYDDwedi ei osod yn ben ar y mynyddoedd erailla'i godi'n uwch na'r bryniau.

2. Bydd y gwledydd i gyd yn llifo ynoa llawer o bobl yn mynd yno a dweud:“Dewch! Gadewch i ni ddringo Mynydd yr ARGLWYDD,a mynd i deml Duw Jacob,iddo ddysgu ei ffyrdd i ni,ac i ninnau fyw fel mae e am i ni fyw.”Achos o Seion y bydd yr arweiniad yn dod,a neges yr ARGLWYDD o Jerwsalem.

3. Bydd e'n barnu achosion rhwng y cenhedloeddac yn setlo dadleuon rhwng y gwledydd mawr pell.Byddan nhw'n curo eu cleddyfau yn sychau aradra'u gwaywffyn yn grymanau tocio.Fydd gwledydd ddim yn ymladd ei gilydd,nac yn hyfforddi milwyr i fynd i ryfel.

4. Bydd pawb yn eistedd dan ei winwyddena'i goeden ffigys ei hun, heb angen bod ofn.Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus wedi addo'r peth!

5. Tra mae'r gwledydd o'n cwmpasyn dilyn eu duwiau eu hunain,byddwn ni yn dilyn yr ARGLWYDD ein Duwam byth bythoedd!

Pobl Dduw yn mynd adre o'r gaethglud

6. “Bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD,“bydda i'n galw'r rhai cloff,ac yn casglu'r rhai sydd ar chwâl,a'r rhai wnes i eu hanafu.

7. Y rhai cloff fydd y cnewyllyn sydd ar ôl;a bydd y rhai fu ar chwâl yn troi'n genedl gref.Bydd yr ARGLWYDD yn frenin arnyn nhwar Fynydd Seion, o hyn allan ac am byth!”

8. A byddi di – y tŵr i wylio'r praidd,sef dinas gaerog pobl Seion –yn cael dy safle anrhydeddus yn ôl.Bydd y deyrnas yn perthyn i Jerwsalem.

9. Ond nawr, pam wyt ti'n gweiddi a sgrechian?Oes gen ti ddim brenin i dy helpu?Ydy dy arweinydd doeth di wedi marw?Ai dyna pam ti'n gwingo mewn poenfel gwraig ar fin cael babi?

10. Gwingwch a gwaeddwch, bobl Seion,fel gwraig mewn poen wrth gael babi!Bydd rhaid i chi adael y ddinasa gwersylla yng nghefn gwlad,ar eich ffordd i Babilon.Ond yno bydd yr ARGLWYDD yn eich achub,a'ch gollwng yn rhydd o afael y gelyn.

11. Ar hyn o bryd mae gwledydd lawerwedi casglu i ymladd yn dy erbyn.“Rhaid dinistrio Jerwsalem,” medden nhw.“Cawn ddathlu wrth weld Seion yn syrthio!”

12. Ond dŷn nhw ddim yn gwybod beth ydy bwriad yr ARGLWYDD!Dŷn nhw ddim yn deall ei gynllun e –i'w casglu nhw fel gwenith i'r llawr dyrnu!

13. Tyrd i ddyrnu, ferch Seion!Dw i'n mynd i roi cyrn o haearna carnau o bres i ti;a byddi'n sathru llawer o wledydd.Byddi'n rhoi'r ysbail i gyd i'r ARGLWYDD,ac yn cyflwyno eu cyfoeth i Feistr y ddaear gyfan.