Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7

Hen Destament

Testament Newydd

Micha 3 beibl.net 2015 (BNET)

Arweinwyr Jwda ar fai

1. Yna dywedais,“Gwrandwch, arweinwyr Jacob,chi sy'n arwain pobl Israel.Dylech wybod beth ydy cyfiawnder!

2. Ond dych chi'n casáu'r daac yn caru'r drwg!Dych chi'n blingo fy mhobl yn fyw,ac yn ymddwyn fel canibaliaid!

3. Dych chi'n bwyta cnawd fy mhobl,yn eu blingo nhw'n fywa malu eu hesgyrn.Torri eu cyrff yn ddarnaufel cig i'w daflu i'r crochan.”

4. Ryw ddydd byddan nhw'n galw ar yr ARGLWYDD am help,ond fydd e ddim yn ateb.Bydd e'n troi ei gefn arnyn nhw bryd hynnyam eu bod wedi gwneud cymaint o ddrwg.

Yn erbyn y proffwydi

5. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrth y proffwydi:“Dych chi'n camarwain fy mhobl!Dych chi'n addo heddwch am bryd o fwyd,ond os na gewch chi'ch taludych chi'n bygwth rhyfel!

6. Felly bydd hi'n nos arnoch chi, heb weledigaeth –byddwch yn y tywyllwch, yn gallu dehongli dim.Bydd yr haul wedi machlud arnoch chi,a'ch dydd wedi dod i ben!

7. Bydd cywilydd ar y proffwydi,a bydd y dewiniaid wedi drysu.Fyddan nhw'n dweud dim,am fod Duw ddim yn ateb.”

8. Ond dw i, ar y llaw arall, yn llawno nerth Ysbryd yr ARGLWYDDac yn credu'n gryf mewn cyfiawnder.Dw i'n herio Jacob am ei wrthryfel,ac yn gwneud i Israel wynebu ei phechod.

Yn erbyn y sefydliad

9. Gwrandwch, arweinwyr Jacob,chi sy'n arwain pobl Israel –chi sy'n casáu cyfiawnderac yn gwyrdroi'r gwir.

10. Dych chi'n adeiladu Seion trwy drais,a Jerwsalem trwy lygredd a thwyll.

11. Mae'r barnwyr yn derbyn breib,yr offeiriaid yn dysgu am elw,a'r proffwydi'n dehongli am dâl –tra'n honni pwyso ar yr ARGLWYDD!“Mae'r ARGLWYDD gyda ni!” medden nhw.“Does wir ddim dinistr i ddod!”

12. Felly chi sydd ar fai!Bydd Seion yn cael ei haredig fel cae,a bydd Jerwsalem yn bentwr o gerrig.Bydd y bryn ble mae'r deml yn sefyllyn goedwig wedi tyfu'n wyllt.