Hen Destament

Testament Newydd

Malachi 2:8-15 beibl.net 2015 (BNET)

8. Ond dych chi wedi troi cefn ar y ffordd iawn;dych chi wedi dysgu pethausydd wedi gwneud i lawer o bobl faglu.Dych chi wedi llygru'r ymrwymiad gyda Lefi,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.

9. “Felly dw i'n mynd i'ch gwneud chi'n raisy'n cael eu diystyru a'u bychanu gan bawb,am nad ydych chi wedi bod yn ffyddlon i mi,a dydy'ch dysgeidiaeth chi ddim wedi bendithio pobl.”

10. Onid un tad sydd gynnon ni i gyd?Onid yr un Duw wnaeth ein creu ni?Felly pam ydyn ni'n anffyddlon i'n gilyddac yn torri ymrwymiad ein tadau?

11. Mae pobl Jwda wedi bod yn anffyddlon,ac wedi gwneud pethau ffiaiddyn Israel a Jerwsalem.Maen nhw wedi halogi'r lle sanctaiddmae'r ARGLWYDD yn ei garu,drwy briodi merched sy'n addoli duwiau eraill.

12. Boed i'r ARGLWYDD daflu allan o bebyll Jacobbob un sy'n gwneud y fath beth,ac yna'n cyflwyno offrwm i'r ARGLWYDD holl-bwerus.

13. A dyma beth arall dych chi'n ei wneud:Dych chi'n gorchuddio allor yr ARGLWYDDgyda'ch dagrau, wrth wylo a chwynoam nad ydy e'n cymryd sylw o'ch offrwm chi ddim mwy,ac yn gwrthod derbyn eich rhodd.

14. “Ond pam?” meddech chi.Am fod yr ARGLWYDD yn dysti'r addewidion wnest ti i dy wraig pan briodaist.Ti wedi bod yn anffyddlon iddier mai hi ydy dy gymar di,a'r un wnest ti ymrwymo iddi drwy briodas.

15. Oni wnaeth Duw chi'n un?Gwnaeth chi'n un cnawd ac ysbryd.A beth sydd gan Dduw eisiau o'r undod?Onid plant duwiol?Felly gwyliwch eich hunain!Ddylai neb fod yn anffyddloni'r wraig briododd pan yn ifanc.

Darllenwch bennod gyflawn Malachi 2