Hen Destament

Testament Newydd

Malachi 2:2-11 beibl.net 2015 (BNET)

2. “Os wnewch chi ddim gwrandoa phenderfynu dangos parch tuag ata i,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus—“bydda i'n dod â'r felltith arnoch chi,ac yn troi eich bendithion chi yn felltith.(Yn wir, dw i wedi gwneud hynny,am eich bod chi ddim o ddifrif.)

3. Bydda i'n ceryddu eich disgynyddion,a rhwbio eich wyneb yn y perfeddion– perfeddion aberthau eich gwyliau crefyddol,a byddwch yn cael eich taflu allan gyda nhw!

4. Byddwch yn gwybod wedyn mai firoddodd y gorchymyn hwn i chi,fod fy ymrwymiad gyda Lefi i'w gadw,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.

5. “Roeddwn wedi ymrwymo i roi bywyd a heddwch iddo.Dyna rois i iddo, ac roedd e i fod i'm parchuac ymostwng o'm blaen i.

6. Roedd i ddysgu'r gwir,a doedd e ddim i dwyllo;Roedd i fyw yn gwbl ufudd i mi,ac i droi llawer o bobl oddi wrth ddrwg.

7. Roedd geiriau offeiriad i amddiffyn y gwir,a'r hyn mae'n ei ddysgu i roi arweiniad i bobl;gan ei fod yn negesydd i'r ARGLWYDD holl-bwerus.

8. Ond dych chi wedi troi cefn ar y ffordd iawn;dych chi wedi dysgu pethausydd wedi gwneud i lawer o bobl faglu.Dych chi wedi llygru'r ymrwymiad gyda Lefi,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.

9. “Felly dw i'n mynd i'ch gwneud chi'n raisy'n cael eu diystyru a'u bychanu gan bawb,am nad ydych chi wedi bod yn ffyddlon i mi,a dydy'ch dysgeidiaeth chi ddim wedi bendithio pobl.”

10. Onid un tad sydd gynnon ni i gyd?Onid yr un Duw wnaeth ein creu ni?Felly pam ydyn ni'n anffyddlon i'n gilyddac yn torri ymrwymiad ein tadau?

11. Mae pobl Jwda wedi bod yn anffyddlon,ac wedi gwneud pethau ffiaiddyn Israel a Jerwsalem.Maen nhw wedi halogi'r lle sanctaiddmae'r ARGLWYDD yn ei garu,drwy briodi merched sy'n addoli duwiau eraill.

Darllenwch bennod gyflawn Malachi 2