Hen Destament

Testament Newydd

Malachi 2:11-17 beibl.net 2015 (BNET)

11. Mae pobl Jwda wedi bod yn anffyddlon,ac wedi gwneud pethau ffiaiddyn Israel a Jerwsalem.Maen nhw wedi halogi'r lle sanctaiddmae'r ARGLWYDD yn ei garu,drwy briodi merched sy'n addoli duwiau eraill.

12. Boed i'r ARGLWYDD daflu allan o bebyll Jacobbob un sy'n gwneud y fath beth,ac yna'n cyflwyno offrwm i'r ARGLWYDD holl-bwerus.

13. A dyma beth arall dych chi'n ei wneud:Dych chi'n gorchuddio allor yr ARGLWYDDgyda'ch dagrau, wrth wylo a chwynoam nad ydy e'n cymryd sylw o'ch offrwm chi ddim mwy,ac yn gwrthod derbyn eich rhodd.

14. “Ond pam?” meddech chi.Am fod yr ARGLWYDD yn dysti'r addewidion wnest ti i dy wraig pan briodaist.Ti wedi bod yn anffyddlon iddier mai hi ydy dy gymar di,a'r un wnest ti ymrwymo iddi drwy briodas.

15. Oni wnaeth Duw chi'n un?Gwnaeth chi'n un cnawd ac ysbryd.A beth sydd gan Dduw eisiau o'r undod?Onid plant duwiol?Felly gwyliwch eich hunain!Ddylai neb fod yn anffyddloni'r wraig briododd pan yn ifanc.

16. “Dw i'n casáu ysgariad,”—meddai'r ARGLWYDD, Duw Israel—“a'r rhai sy'n euog o drais,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.Felly gwyliwch eich hunain!Ddylai neb fod yn anffyddlon.

17. Dych chi wedi blino'r ARGLWYDD â'ch holl siarad.“Sut ydyn ni wedi ei flino fe?” meddech chi,Trwy ddweud, “Mae pawb sy'n gwneud drwgyn dda yng ngolwg yr ARGLWYDD– mae wrth ei fodd gyda nhw!”neu trwy ofyn, “Ble mae'r Duw cyfiawn yma?”

Darllenwch bennod gyflawn Malachi 2