Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 9:15-24 beibl.net 2015 (BNET)

15. Wedyn dyma Aaron yn cyflwyno offrymau'r bobl. Cymerodd y bwch gafr oedd yn offrwm i lanhau'r bobl o'u pechod, ei ladd, a mynd trwy'r un ddefod o buro ac o'r blaen.

16. Wedyn dyma fe'n cyflwyno'r offrwm i'w losgi, gan ddilyn y ddefod arferol wrth wneud hynny.

17. Wedyn yr offrwm o rawn. Dyma fe'n cymryd llond ei law ohono a'i losgi ar yr allor gyda'r offrwm oedd i'w losgi yn y bore.

18. Ar ôl hynny dyma fe'n lladd y bustach a'r hwrdd yn offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Dyma feibion Aaron yn cyflwyno'r gwaed iddo, a dyma fe'n sblasio'r gwaed o gwmpas yr allor.

19. Wedyn dyma fe'n cymryd brasder y bustach a'r hwrdd – brasder y gynffon, y brasder o gwmpas y perfeddion, y ddwy aren a'r brasder sydd arnyn nhw, a rhan isaf yr iau.

20. A dyma fe'n gosod y rhain ar ben y brestiau, ac yna llosgi'r brasder i gyd ar yr allor.

21. Wedyn dyma Aaron yn codi'r brestiau a rhan uchaf y goes ôl, a'u cyflwyno yn offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD. Gwnaeth yn union fel roedd Moses wedi dweud.

22. Wedyn dyma Aaron yn troi at y bobl ac yn codi ei ddwylo a'u bendithio nhw. Ar ôl gorffen cyflwyno'r offrymau i gyd dyma fe'n dod i lawr o'r allor,

23. ac yna mynd gyda Moses i mewn i Babell Presenoldeb Duw. Pan ddaethon nhw allan dyma nhw'n bendithio'r bobl, a dyma'r bobl i gyd yn gweld ysblander yr ARGLWYDD.

24. Yna dyma'r ARGLWYDD yn anfon tân i losgi popeth oedd ar yr allor. Pan welodd pawb hyn dyma nhw'n gweiddi'n llawen ac yn plygu'n isel a'u hwynebau ar lawr.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 9