Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 8:25-36 beibl.net 2015 (BNET)

25. Yna dyma fe'n cymryd y brasder – sef brasder y gynffon, y brasder o gwmpas y perfeddion, rhan isaf yr iau, a'r ddwy aren a'r brasder sydd arnyn nhw – a darn uchaf y goes ôl dde.

26. Yna cymerodd Moses o'r fasged beth o'r bara wedi ei wneud gyda'r blawd gwenith gorau – un dorth o fara heb furum ynddo, un dorth wedi ei socian mewn olew olewydd, ac un o'r bisgedi.

27. Yna eu gosod nhw ar ben y brasder a darn uchaf y goes ôl dde, a rhoi'r cwbl yn nwylo Aaron a'i feibion. A dyma nhw'n ei godi'n uchel a'i gyflwyno'n offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD.

28. Wedyn dyma Moses yn cymryd y cwbl yn ôl ac yn ei losgi ar yr allor gyda'r offrwm sydd i'w losgi'n llwyr. Roedd hwn yn offrwm ordeinio, ac yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.

29. Yna dyma Moses yn codi'r frest yn uchel a'i chyflwyno yn offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD. Roedd Moses yn cael cadw'r rhan yma o hwrdd yr ordeinio, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho.

30. Yna'n olaf dyma Moses yn cymryd peth o'r olew eneinio a peth o'r gwaed oedd ar yr allor a'i daenellu ar Aaron a'i feibion a'u gwisgoedd. Dyna sut wnaeth e gysegru Aaron a'i feibion a'u gwisgoedd i wasanaeth yr ARGLWYDD.

31. A dyma Moses yn dweud wrth Aaron a'i feibion, “Rhaid i chi goginio cig yr hwrdd yma wrth y fynedfa i'r Tabernacl. Yna ei fwyta gyda'r bara sydd yn y fasged sy'n dal yr offrymau ordeinio. Mae Duw wedi dweud wrtho i mai dim ond chi sydd i fod i'w fwyta.

32. Wedyn rhaid i chi losgi'r cig ar bara sydd ar ôl.

33. Rhaid i chi aros yma wrth y fynedfa i'r Tabernacl am saith diwrnod, nes bydd cyfnod y seremoni ordeinio drosodd.

34. Dŷn ni wedi gwneud popeth heddiw yn union fel mae'r ARGLWYDD wedi dweud, i wneud pethau'n iawn rhyngoch chi a fe.

35. Nawr, mae'r ARGLWYDD wedi dweud wrtho i fod rhaid i chi aros wrth y fynedfa i'r Tabernacl nos a dydd am saith diwrnod, neu byddwch chi'n marw.”

36. A dyma Aaron a'i feibion yn gwneud popeth oedd yr ARGLWYDD wedi ei orchymyn drwy Moses.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 8