28. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
29. “Dywed wrth bobl Israel: Pan mae rhywun yn cyflwyno offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD rhaid i'r person ei hun ddod â'r offrwm i'r ARGLWYDD.
30. Mae i ddod â'r brasder a'r frest. Mae'r frest i gael ei chodi'n uchel a'i chyflwyno'n offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD.
31. Bydd offeiriad yn llosgi'r brasder ar yr allor, ond mae'r offeiriaid, disgynyddion Aaron, yn cael cadw'r frest.
32-33. Rwyt i roi darn uchaf y goes ôl dde i'r offeiriad sy'n cyflwyno gwaed a brasder yr aberth. Mae e i gael cadw darn hwnnw.
34. Dw i'n cymryd y frest sydd i'w chwifio a darn uchaf y goes ôl dde gan bobl Israel. Dyna'r rhannau o'r offrwm hwn mae pobl Israel i'w rhoi bob amser i Aaron yr offeiriad a'i ddisgynyddion.”
35. Ers i Moses eu cysegru nhw i wasanaethu fel offeiriaid i'r ARGLWYDD, dyma'r rhannau o'r offrymau oedd i gael eu rhoi i Aaron a'i feibion.
36. Dyma beth ddwedodd yr ARGLWYDD oedd i gael ei roi iddyn nhw, pan gawson nhw eu heneinio gan Moses. Dyma beth mae pobl Israel i fod i'w roi iddyn nhw bob amser.
37. Felly dyma'r drefn sydd i'w chadw gyda'r offrwm i'w losgi, yr offrwm o rawn, yr offrwm i lanhau o bechod, yr offrwm i gyfaddef bai, yr offrwm ordeinio, a'r offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.
38. Dyma wnaeth yr ARGLWYDD ei orchymyn i Moses ar fynydd Sinai pan oedd pobl Israel yn yr anialwch. Dyma'r offrymau oedd pobl Israel i'w cyflwyno iddo.