Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 7:21-36 beibl.net 2015 (BNET)

21. Pan mae rhywun wedi cyffwrdd unrhyw beth aflan sy'n dod o'r corff dynol, neu gorff anifail neu rhyw greadur arall, ac wedyn yn bwyta cig yr offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.”

22. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

23. “Dywed wrth bobl Israel: Rhaid i chi beidio bwyta brasder unrhyw anifail – gwartheg, defaid na geifr.

24. Os oes anifail wedi marw neu wedi cael ei ladd gan anifail gwyllt gallwch ddefnyddio'r brasder i wneud unrhyw beth, ond rhaid i chi beidio ei fwyta.

25. Os oes unrhyw un yn bwyta braster anifail sydd wedi cael ei offrymu i'r ARGLWYDD, bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.

26. Peidiwch bwyta gwaed unrhyw aderyn neu anifail, ble bynnag dych chi'n byw.

27. Bydd unrhyw berson sy'n bwyta gwaed yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.”

28. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

29. “Dywed wrth bobl Israel: Pan mae rhywun yn cyflwyno offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD rhaid i'r person ei hun ddod â'r offrwm i'r ARGLWYDD.

30. Mae i ddod â'r brasder a'r frest. Mae'r frest i gael ei chodi'n uchel a'i chyflwyno'n offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD.

31. Bydd offeiriad yn llosgi'r brasder ar yr allor, ond mae'r offeiriaid, disgynyddion Aaron, yn cael cadw'r frest.

32-33. Rwyt i roi darn uchaf y goes ôl dde i'r offeiriad sy'n cyflwyno gwaed a brasder yr aberth. Mae e i gael cadw darn hwnnw.

34. Dw i'n cymryd y frest sydd i'w chwifio a darn uchaf y goes ôl dde gan bobl Israel. Dyna'r rhannau o'r offrwm hwn mae pobl Israel i'w rhoi bob amser i Aaron yr offeiriad a'i ddisgynyddion.”

35. Ers i Moses eu cysegru nhw i wasanaethu fel offeiriaid i'r ARGLWYDD, dyma'r rhannau o'r offrymau oedd i gael eu rhoi i Aaron a'i feibion.

36. Dyma beth ddwedodd yr ARGLWYDD oedd i gael ei roi iddyn nhw, pan gawson nhw eu heneinio gan Moses. Dyma beth mae pobl Israel i fod i'w roi iddyn nhw bob amser.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 7